Tudalen:Yr Ogof.pdf/42

Gwirwyd y dudalen hon

"Do, anghofiais amdani, a bu'n rhaid imi yrru Simeon i'w nôl."

"Yr oeddwn i wrthi'n ei darllen pan ddaeth Simeon yn ôl i'r tŷ. Gobeithio y maddeuwch imi, Syr."

"Nid oes un ferch y ffordd yma yn gallu darllen. Dim ond y bechgyn ac nid pawb o'r rheini. Pwy a'ch dysgodd?"

"Fy nhad. Fe ddechreuodd ddysgu Diana hefyd."

"Diana?"

"Fy chwaer fach. Ond bu hi farw dan y pla a ddaeth i Athen. Chwech wythnos yn ôl. Yr oedd Diana'n dysgu'n gyflym iawn hefyd, yn gyflymach na fi o lawer."

"Fuasech chwi . 'fuasech chwi'n darllen i mi weithiau? Mae . . . mae fy llygaid i'n blino'n fuan."

"O, wrth gwrs, Syr. Mi fuaswn i wrth fy modd."

A dyna gychwyn y gyfathrach rhyngddynt. Erbyn hyn, gwrando ar fiwsig ei llais —tawel a syllu ar ei hwyneb tlws a'i gwallt gloywddu oedd hyfrydwch pennaf Othniel. Yr oedd yn ei charu, a gwyddai ei bod hithau'n hoff ohono yntau. Petai'n gwella—a daliai i obeithio y câi adferiad—gofynnai iddi ei briodi, a thrigent yn un o'r tai newydd a godasai'i dad yng nghwr uchaf yr ystad. Petai'n gwella . . .! Beth, tybed, a ddywedai'r Nasaread wrthi?

Fel y syllai arni'n marchogaeth tu ôl i Rwth, gwyddai na allai ddanfon neb gwell at y rabbi o Galilea i erfyn ar ei ran: ymbil dros un a garai y byddai hi. Ni fynegasai hi hynny i neb, a chadwai'n wylaidd ei lle fel caethferch yn y tŷ, ond nid âi awr heibio na chwiliai hi am gyfle i wneud rhyw gymwynas fach ag ef. Tybiai Othniel fod dealltwriaeth gyfrin rhyngddi hi a'r hen Elihu yn aml iawn pan ofynnai ef am rywbeth i Elihu, Alys a'i dygai iddo.

Elihu Gwyliai ef yn awr ar ei asyn, yn ymddiddan ag Alys, a gwenai Othniel wrth gofio mor afrwydd oedd Groeg yr hen frawd. Buasai'n gaethwas i'w dad ers tua deng mlynedd ar hugain bellach, a chawsai gynnig ei ryddid droeon. Ond nis mynnai. Ar ddiwedd pob chwe blynedd digwyddai'r un peth. Gwrthodai Elihu ei ryddid, ond buasai'n dra diolchgar i'w feistr am adael iddo gael un golwg arall ar fro'i ieuenctid. Gwyddai yr un oedd ei eiriau bob tro—ei fod yn hy, yn gofyn llawer ar law ei feistr haelionus, yn manteisio ar ei garedigrwydd, ond hiraethai am droedio unwaith eto wrth lan Llyn Gennesaret. Yno, gerllaw Capernaum, y chwaraesai