Tudalen:Yr Ogof.pdf/43

Gwirwyd y dudalen hon

yn hogyn; yno yr oedd bedd ei dadau. Rhoddid iddo asyn ac arian a bwyd i'r daith, ac i ffwrdd ag ef fel gŵr bonheddig am ryw dair wythnos. Fel gŵr bonheddig er gwaethaf ei ddillad tlodaidd a rhic y caethwas yn ei glust. A phob tro yr âi, codai dadl rhwng mam a thad Othniel—hi'n haeru na adawai neb yn ei lawn bwyll i gaethwas fynd i grwydro'r wlad fel hyn ac na welai ef mo'i asyn na'i gaethwas byth wedyn, ac yntau'n ceisio egluro'n bwyllog ac amyneddgar mai Elihu oedd Elihu. Ar ôl tocio'r gwinwydd yn nechrau'r flwyddyn yr âi'r hen gaethwas, a chyn sicred ag y clywid llais y durtur eto yn y wlad, gwelid ef a'i asyn yn dringo'r bryn tua'r tŷ. A châi Othniel, a hoffai gwmni'r hen frawd, hanes pysgodwyr Galilea a darluniau byw o'r prysurdeb dibaid hyd y Via Maris, y ffordd fawr a redai o Ddamascus drwy Gapernaum tua'r môr. Treuliai Elihu, ar ei wyliau' fel hyn, oriau meithion yn gwylio'r carafanau lliwgar yn mynd heibio o Ddamascus a'r Dwyrain Pell. Ond y tro olaf hwn, am y rabbi o Nasareth a'r gwyrthiau rhyfeddol a gyflawnai y soniai: âi dros yr un ystori ddegau o weithiau, ac nid oedd dim arall i'w glywed ganddo. Siaradai mewn islais dwys, fel petai'n sôn am Abraham neu Elias. Yr oedd ef yn sicr mai hwn oedd y Meseia.

Aethai'r cwmni o olwg Othniel yn awr tu ôl i'r clwstwr o gypreswydd ar waelod yr allt, ac ni welai ond gwyn a choch a glas eu gwisgoedd rhwng y coed. Yna aeth tro yn y ffordd â hwy o'r golwg. Galwodd ddau was a welai'n dychwelyd i'r tŷ o'r winllan.

"Simeon! Nahor!"

Brysiodd y ddau ato.

"Hoffwn eistedd allan yn y berllan."

"O'r gorau, Syr," meddai Simeon. "Yn eich lle arferol?"

"Ie. Wrth y ffrwd."

Cydiodd y ddau, un bob ochr, yn ei gadair a'i gludo ynddi i gwr pellaf y berllan, at y ffigysbren ar fin yr afonig.

Hwn, parabl dŵr y nant, oedd y perffeithiaf sŵn yn y byd i Othniel. Su awel mewn dail, cân adar y gwanwyn, chwerthin merch—yr oeddynt oll ynghudd yn ei islais ef. A gwelai ei ddychymyg liwiau yn y sŵn—nid yn y dŵr troellog yn unig ond yn ei lafar hefyd a hoffai gau ei lygaid a gadael i'r sisial cysurlawn droi'n wynder a glesni ac aur a phorffor yn