Tudalen:Yr Ogof.pdf/44

Gwirwyd y dudalen hon

nhawelwch ei feddwl. Heddiw, gwyn a glas a welai, a thrwyddynt gwenai llygaid tyner a thirion Alys. Mor llon fyddai'r llygaid hynny os llwyddai i ddwyn y Nasaread yn ôl gyda hi! Os ildiai'r rabbi ifanc i erfyniad rhywun, i ddyhead Alys y gwnâi, i'r weddi yn ei llygaid rhyfeddol hi.

Yr oedd y saer hwn o Nasareth yn ŵr anghyffredin, yn amlwg. Gwir fod gan yr hen Elihu ddychymyg byw a'i fod yn hoff o chwanegu cufydd at bob stori, ond y tro hwn, yn rhyfedd iawn, ni chynyddai'r hanesion o'u hailadrodd. Ni feiddiai Othniel amau gair ohonynt yng ngwydd yr hen frawd: pan ddaeth gwên ddrwgdybus i'w lygaid un diwrnod, arhosodd Elihu ar ganol ei stori a haeru ei fod yn barod i roi ei enaid i'r Diafol ei hun os oedd cysgod o gelwydd yn yr hyn a ddywedai.

Aeth meddwl Othniel dros rai o'r hanesion eto, fel y gwnaethai dro ar ôl tro o'r blaen. Yn ôl Elihu, am wyrthiau'r Nasaread ac nid am ddim arall y siaradai pawb yng Nghapernaum, a thynnai pobl sylw'i gilydd ar yr heolydd at rywun a fu'n ddall neu'n gloff neu'n wahanglwyfus ond a iachawyd gan y rabbi a'i ddisgyblion. Ond y stori a lynodd fwyaf yn ei feddwl efallai am fod Othniel yn dioddef oddi wrth yr un afiechyd—oedd honno am ryw ŵr yn glaf o'r parlys. Gan i Elihu gyfarfod un o weision y dyn, yr oedd y manylion i gyd ganddo, ac adroddai'r hanes ag awdurdod.

"Yr oedd ef newydd wella gwas y canwriad Rhufeinig, Syr,' meddai. "Heb ei weld o gwbl! Pan oedd ar ei ffordd i'r tŷ, gyrrodd y canwriad neges ato. Dweud y gallai ef iacháu'r gwas dim ond wrth ddymuno hynny. A dyna a wnaeth, Syr, wedi synnu fod gan y Rhufeinwr y fath ffydd ynddo ef. Dyn da yw'r canwriad 'na sydd yng Nghapernaum, Syr. Yn yr hen dref y mae'r synagog harddaf a welais i erioed. Harddach hyd yn oed na hon a gododd eich tad yma yn Arimathea. A'r canwriad 'na a dalodd am ei hadeiladu. Y mae rhai o'r Rhufeinwyr 'ma, Syr, y mae'n rhaid imi ddweud, yn ddynion gwych. Ydynt, yn wir, er eu bod hwy'n baganiaid rhonc a chanddynt gymaint o dduwiau ag sydd o ffigys ar y goeden 'ma

"Y dyn a oedd yn wael o'r parlys, Elihu—beth a ddigwyddodd?"

"O, ie, Syr. Un go flêr wyf fi'n dweud stori, onid e? Ond yn wir, y mae'r canwriad 'na sydd yng Nghapernaum yn