Tudalen:Yr Ogof.pdf/45

Gwirwyd y dudalen hon

haeddu lle yn y Nefoedd, Syr. Ydyw, wir—a begio'ch pardwn am sôn am y Nefoedd mewn bywyd ar ôl hwn. Siawns go sâl a gefais i yn hwn, fel y gwyddoch chwi, er nad oes gennyf lawer i gwyno yn ei gylch, o ran hynny—wedi cael iechyd da drwy f'oes a'ch tad mor garedig wrthyf ac yn gadael imi fynd bob chwe blynedd yn rêl gŵr bonheddig am dro yn ôl i'r hen ardal.. .

"Y dyn a oedd yn wael o'r parlys, Elihu?"

"Daria unwaith, dyna fi'n crwydro eto, Syr. Wel, fe aeth y rabbi'n ôl i dŷ un o'i ddisgyblion. I lawr wrth wal y Llyn, Syr. Pysgodwr o'r enw Simon. Y tŷ bach delaf a welsoch chwi erioed. Ar ei ben ei hun a lle agored rhyngddo a mur y traeth. Mi fûm i'n eistedd ar wal y Llyn am oriau un bore, dim ond i edrych ar y tŷ a rhag ofn y gwelwn i'r Proffwyd yn mynd iddo. Ond yr oedd ef a'i ddisgyblion rywle yn y De a thros Iorddonen . . . "

"Fe aeth i dŷ'r pysgodwr. Ac wedyn?"

"Yr oedd llawer o Ysgrifenyddion yng Nghapernaum yn ei wylio, Syr. O bob man. O holl Galilea a Jwdea a hyd yn oed o Jerwsalem ei hun. Dynion da, Syr, dynion da iawn, gwŷr dysgedig dros ben a'r Gyfraith ar flaenau'u bysedd. Ond—os maddeuwch chwi i hen gaethwas am ddweud hynny, Syr—rhy glyfar, rhy fanwl, rhy ddeddfol. Wedi'r cwbl, yr oedd y Proffwyd yn medru gwneud pethau na fedrent hwy, ac nid arno ef yr oedd y bai am fod y bobl yn tyrru ar ei ôl. Dywedai Caleb y gwas y cefais i'r stori ganddo—fod yno gannoedd o'r wlad tros Iorddonen mewn pebyll tu allan i Gapernaum a channoedd eto, pobl o Phenicia, hyd y bryniau i'r gogledd, a miloedd o Galilea a Jwdea yn y dref ac yn y pentrefi o gwmpas. Miloedd o bobl sâl hyd y lle, yn gobeithio am iachâd. Nid rhyfedd fod yr Ysgrifenyddion yn anesmwyth, oherwydd yr oedd miloedd yn dilyn y Proffwyd dim ond i'w glywed yn siarad, Syr. Yn syml a chartrefol, meddai Caleb. Pawb yn ei ddeall. Nid hollti blew am y Gyfraith fel rhai o'r Ysgrifenyddion, ond egluro popeth mewn damhegion am bethau cyffredin. Nid fy mod i'n dweud dim yn amharchus am yr Ysgrifenyddion, cofiwch, Syr. Dynion da, dynion gorau'r genedl. Na, mi rown i fy nghorff i'w losgi cyn dweud gair yn erbyn un Rabbi. Ni fethais i erioed, Syr—wrth y synagog neu ar fin y ffordd neu yn y farchnad—ymgrymu pan âi Rabbi heibio. Erioed yn unman. 'Elihu,