Tudalen:Yr Ogof.pdf/46

Gwirwyd y dudalen hon

'machgen i,' fyddai geiriau fy nhad ers talm, beth bynnag arall a anghofi di, cofia mai gan yr Ysgrifenyddion y mae doethineb. Hwy sy'n deall y Gyfraith, cofia, a lle bynnag y cei di gyfle i wrando ar Rabbi—mewn priodas neu angladd neu yn y synagog neu yng nghyntedd y Deml—bydd yn astud.' Gwn nad yw'ch tad, fel Sadwcead, yn cytuno â llawer o'u dysgeidiaeth, Syr, ond . . .'

"Wedi i'r Nasaread fynd i mewn i'r tŷ wrth lan y Llyn, Elihu?"

"Dyna fi'n crwydro eto, Syr, yn lle mynd ymlaen â'r stori. Fel hen ddafad a'i thrwyn yn rhuthro ar ôl pob blewyn glas. 'Y neb a gadwo ei enau a'i dafod a geidw ei enaid rhag cyfyngder,' medd yr hen air, onid e, Syr? . . . Wel, i mewn ag ef i'r tŷ gan feddwl cael tipyn o dawelwch yno hefo'r pysgodwr Simon a'i frawd Andreas ac eraill o'i ddisgyblion. Ond fe ddaeth rhai o'r Ysgrifenyddion a llu o bobl eraill at y tŷ, amryw ohonynt yn ymwthio i mewn. Cyn hir yr oedd y lle gwag rhwng y tŷ a wal y Llyn yn llawn o bobl, llawer ohonynt yn disgwyl dadl rhwng y Proffwyd a'r Ysgrifenyddion. Yr oedd y Proffwyd yn sefyll wrth y drws er mwyn i'r rhai tu fewn yn ogystal â'r rhai tu allan ei glywed yn pregethu, a gwrandawai pawb yn astud arno. Yna daeth pedwar o ddynion ifainc yn cario meistr Caleb tua'r lle. Ar fat ei wely, Syr. Yr oedd yn wael o'r parlys ac yn methu â symud llaw na throed ers rhai blynyddoedd. Dyn ifanc fel chwi, Syr, ond yn llawer gwaeth na chwi, wrth gwrs. Pan ddaethant at gwr y dyrfa, gwelsant nad oedd un gobaith iddynt dorri llwybr drwyddi. Wedi'i gludo ef daith awr o Gapernaum, o ymyl Chorasin, yr oeddynt yn siomedig iawn. 'Wyddoch chwi beth a wnaethant, Syr? Mynd i gefn y tŷ a chlymu rhaffau am gonglau'r mat. Yr oedd digon o hen raffau yn y cwrt wrth gefn y tŷ, rhaffau ar gyfer rhwydi a hwyliau'r ddau bysgodwr Simon ac Andreas. Wel i chwi, i fyny â hwy wedyn i'r to a chodi meistr Caleb yno. Mewn dim o amser yr oeddynt wedi crafu'r pridd yn ôl oddi ar ddarn o'r to a chodi'r brigau a'r coed a'r meini o'u lle. Yr oedd y bobl yn yr ystafell oddi tanynt wedi dychrynu, yn methu'n glir â gwybod beth a oedd yn digwydd. Fe dawodd y Proffwyd, a rhoi cam i mewn i'r tŷ i weld achos y cynnwrf, a chyn gynted ag y gwnaeth ef hynny, dyma'r dynion ifainc yn gollwng y mat yn araf i lawr drwy'r to. Wrth draed y Proffwyd, Syr. Yr oedd Caleb i