Tudalen:Yr Ogof.pdf/47

Gwirwyd y dudalen hon

fyny ar y to hefo'r dynion ifainc ac yn edrych i lawr ar wyneb ei feistr. Ni fedrai'r hen was beidio â chrio wrth weld llygaid mawr ei feistr—yr oedd yn methu siarad gair ers tro—yn erfyn am i'r Proffwyd ei iacháu. Buasai'r dyn ifanc yn un go wyllt ar un adeg, yn byw er mwyn pleser a dim arall.

Ond yr oedd ganddo galon iawn, meddai Caleb. Caredig a haelionus dros ben, wyddoch chwi, ac yn rhoi arian o hyd o hyd i'r tlodion. Un diwrnod, pan ddaeth hen gardotyn i'w dŷ . . .

"Beth ddywedodd y Nasaread wrtho, Elihu?"

"Wel, Syr, dyna lle'r oedd y dyn ifanc ar y mat wrth ei draed, yn methu â dweud gair na symud bys na bawd, dim ond ceisio siarad â'i lygaid. Yr oedd pawb yn dawel. Dim siw na miw yn yr ystafell. Yna fe ŵyrodd y Proffwyd ymlaen uwchben y dyn ifanc a dweud,' Ha, fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau'."

"Beth!"

"Dyna a ddywedodd, Syr. Yn dawel, ond clir. Y llais mwyaf caredig a glywsai Caleb erioed. Caredig a llawn cysur, ond â rhyw awdurdod rhyfedd ynddo hefyd.'

"Nid oes gan neb awdurdod i ddweud hynny, Elihu. Dim ond Duw ei hun. Y dibechod yn unig a all faddau pechodau.' "Y mae'r Proffwyd hwn yn ddibechod, Syr. Ef yw'r Meseia."

"A ydyw'n hawlio hynny?"

"Fe wnaeth y diwrnod hwnnw, Syr. O flaen yr Ysgrifenyddion hefyd. Ac y mae llawer a'i clywodd ac a welodd ei wyrthiau yng Nghapernaum yn credu hynny. Fel yr oeddwn i'n dweud wrth eich tad. . . "

"Beth a ddywedodd yr Ysgrifenyddion?"

"Dim byd, Syr, ond yr oedd eu hwynebau'n huawdl iawn. Ni chlywsant erioed y fath gabledd."

"Naddo, yn sicr. Yr oedd yn cablu, Elihu."

Ysgydwodd yr hen gaethwas ei ben yn ddwys.

"Mae Caleb yn un crefyddol iawn, Syr, yn llawer mwy duwiol na fi. Ond yr oedd ef yn credu'r Proffwyd, yn gwybod yn ei galon mai llais y Meseia a lefarai. Gwelai ryw lawenydd mawr yn llygaid ei feistr a dagrau'n dechrau rhedeg i lawr ei ruddiau. Gwyddai wrth edrych i lawr ar ei wyneb, fod rhyw dangnefedd rhyfeddol yn meddiannu'i enaid. A syrthiodd yr hen Galeb ar y to i ddiolch i Dduw am y Proffwyd ac am iddo faddau pechodau'i feistr."