Tudalen:Yr Ogof.pdf/49

Gwirwyd y dudalen hon

"Alys? Beth amdani?"

"Rhaid i chwi faddau imi, Syr, ond os medrai rhywun gymell y Proffwyd i ddod y ffordd yma . . . "

"Efallai, wir. Ond ni fydd Alys yn Jerwsalem. Elisabeth a chwithau yw'r gweision sy'n mynd i bob Gŵyl."

"Mae Alys yn gweddïo trosoch bob dydd, Syr. Rhyngoch chwi a mi, wrth gwrs. Ar ryw dduw o'r enw Zeus."

"Prif dduw y Groegiaid, Elihu."

"Felly yr oedd hi'n dweud, Syr. Bob bore a phob nos yn daer y mae hi'n erfyn trosoch. Ond peidiwch â chymryd arnoch i mi sôn gair wrthych, os gwelwch yn dda, Syr. Meddwl yr oeddwn i . . .

"Ie?"

"Y gallech chwi gymell eich tad i adael i Alys am y tro hwn . . . "

"Fynd i Jerwsalem?"

"Ie, Syr. Y mae ef, fel chwithau, yn hoff ohoni ac yn ddrwg ganddo trosti."

"Ond ni wnâi ond gwylltio pe soniwn am ei gyrru i weld y Nasaread. Gwyddoch mor chwyrn ydyw ef a gwŷr y Deml yn erbyn y Galilead."

"Nid oes raid i chwi sôn am y Proffwyd, Syr. Pe dywedech wrtho y byddai'r daith i Jerwsalem yn gymorth iddi i anghofio'i galar, efallai . . ."

Galwai llais Reuben, y goruchwyliwr, o'r winllan.

"Reuben yn chwilio amdanaf, Syr. Caf dafod ganddo oni frysiaf. Meddyliwch am yr awgrym ynglŷn ag Alys, Syr. Diar, pe clywech chwi'r hen Galeb yn sôn am y Proffwyd! Ni fu neb tebyg iddo meddai ef. Dim ers dyddiau Elias, beth bynnag. Dywedai fod y tyrfaoedd yn llifo i lawr at y Llyn i wrando arno'n pregethu o gwch y pysgodwr Simon. Pobl o bob cyfeiriad. Ô Tyrus a Sidon, o bob rhan o Galilea, o . . . " Daeth llais Reuben eto o'r winllan. "Rhaid imi 'i gwadnu hi, neu fe fydd Reuben yn hanner fy lladd i. Ond cofiwch feddwl am y peth, Syr."

Un o lawer oedd y sgwrs honno, ond hi a gofiai Othniel gliriaf. Am mai hi a'i cyffroes fwyaf. Bob dydd wedyn, dychmygai weled Alys yn ymgrymu o flaen y Nasaread yng Nghyntedd y Cenhedloedd yn y Deml ac yn erfyn arno ddyfod i Arimathea. Gwelai'r Proffwyd yn ildio i'w chais ac yn ei bendithio a'i chysuro. A phob nos breuddwydiai am y