Tudalen:Yr Ogof.pdf/52

Gwirwyd y dudalen hon

pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf ger bron Duw?
Fy nagrau a oedd fwyd i mi ddydd a nos
tra dywedent wrthyf bob dydd,
'Pa le y mae dy Dduw?'
Tywalltwn fy enaid ynof pan gofiwn hynny:
canys aethwn gyda'r gynulleidfa,
cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw
mewn sain cân a moliant,
fel tyrfa yn cadw gŵyl."

Cofiai Joseff mai hi oedd y drydedd Deml ar y sylfaen hon. Yma y codasai Solomon dŷ gorwych i Dduw, ond wedi pedair canrif o ogoniant, aeth ei holl harddwch yn sarn. Ysbeiliwyd a diffeithiwyd hi gan fyddin Nebuchadresar, brenin Caldea. Dim ond am hanner canrif, er hynny, y gorweddodd ei meini'n garnedd ar y graig anferth. Adeiladodd Sorobabel hi drachefn, a pharhaodd ei Deml ef hyd nes dyfod y llengoedd Rhufeinig i'r wlad yn agos i bum canrif wedyn. Cyn hir teyrnasai Herod Fawr fel esgus o frenin oddi tanynt yn Jerwsalem, ac aeth ati—i ddangos ei fawredd ac i dawelu'i gydwybod i godi, ymhlith llu o adeiladau eraill drwy'r wlad, Deml harddach na hyd yn oed un Solomon. Tair blynedd y buwyd yn casglu'r defnyddiau drudfawr o lawer gwlad, ac yna dechreuodd byddin o weithwyr—mil o offeiriaid a deng mil o grefftwyr a llafurwyr—gloddio a chodi ac addurno. Ymhen blwyddyn a hanner yr oedd y Deml ei hun —yr adeiladau sanctaidd a'r neuaddau a'r cynteddau wedi'i chysegru, ond aeth y gwaith ar y pyrth a'r muriau allanol ymlaen am wyth mlynedd arall. Nid oedd yng Ngroeg na'r Eidal na'r Aifft, nid oedd ac ni bu, adeilad hafal i hwn, a phan orffennwyd ef, syllodd pob Iddew mewn parchedig ofn a oedd bron yn arswyd ar ei holl wychder ef. Ond troes eu rhyfeddu'n ddychryn pan welsant grefftwyr Herod yn addurno'r prif borth ag eryr Rhufeinig wedi'i foldio mewn aur pur. Aeth y braw yn ferw drwy'r wlad, a bu'n rhaid i Herod ildio o flaen yr ystorm.

Syllodd Joseff ar ogoniant y Deml enfawr. Bob tro y deuai yn agos i Jerwsalem, edrychai arni fel pe am y waith gyntaf erioed, a'i enaid yn gynnwrf i gyd. Yr oedd golau'r hwyrddydd trosti yn awr a disgleiriai'i holl ryfeddod hi—y muriau