Tudalen:Yr Ogof.pdf/54

Gwirwyd y dudalen hon

"Newydd, Syr! Newydd! Gresyn na fuasech chwi yma ryw hanner awr ynghynt. Marchogodd Brenin i mewn i Jerwsalem gynnau!"

"Brenin?"

"Ie, Syr, ar ebol asen yn yr hen ddull brenhinol," atebodd Abinoam ymhen ennyd, wedi iddo gael ei anadl. "Cannoedd o bererinion Galilea yn ei ddilyn tros ysgwydd Olewydd a channoedd yn rhuthro i'w gyfarfod. Pobl yn taenu'u dillad a changau palmwydd ar y ffordd o'i flaen. Pawb yn gweiddi, 'Hosanna i fab Dafydd!' a 'Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd!' a Hosanna yn y goruchaf!

Ceisiodd Abinoam yntau godi'i lais, ond cafodd yr ymdrech yn ormod iddo. Yr oeddynt i mewn yn y tŷ erbyn hyn ac fe'i gollyngodd ei hun yn ddiolchgar ar fainc esmwyth wrth y mur. Rhoes y fainc wich o brotest, ond llwyddodd i beidio ag ymddatod dan ei baich.

"A phwy oedd y Brenin' hwn?"

"Ni welais i orymdaith debyg iddi erioed yn y ddinas, Syr," meddai Abinoam yn lle ateb y cwestiwn. "Sôn am dyrfa! Y Phariseaid a'r Ysgrifenyddion yn gwneud eu gorau glas i'w thawelu, ond taflu'u lleisiau yn erbyn y gwynt yr oeddynt. Y sŵn i'w glywed oddi yma pan oedd y dorf i lawr yn Nyffryn Cidron! Mi ruthrais i i fyny at fur y Deml—hynny yw, mi geisiais frysio, Syr—a dyna olygfa! Am a wn i nad oedd miloedd yn yr orymdaith, ac erbyn hyn yr oedd y rhai blaenaf yn llafar—ganu proffwydoliaeth Sechareia."

"A phwy oedd y Brenin' hwn, Abinoam?"

Cymerodd Abonoam orig i gael ei wynt ato—ac i fwynhau'r chwilfrydedd yn llygaid Joseff. Er y dibynnai am ei fywoliaeth ar gyfoethogion fel y Sadwcead hwn, gwelsai ddigon ar wŷr y Deml i'w dirmygu ar y slei. Onid oedd ei frawd yn llwgu mewn tipyn o dyddyn yn y bryniau i geisio crafu trethi a degymau iddynt?

"Ie, yr hen broffwydoliaeth yn codi'n salm o'r llethr, Syr.

'Bydd lawen iawn, ti ferch Seion:
gwaedda, O ferch Jerwsalem:
wele dy frenin yn dyfod atat:
cyfiawn yw a chanddo iachawdwriaeth.
Yn addfwyn y daw, yn marchogaeth ar asyn;
ie, ar ebol, ar lwdn asen.'"