Tudalen:Yr Ogof.pdf/56

Gwirwyd y dudalen hon

"Ie, syr. Fe'i cedwais hi i chwi. Y tŷ yma'n orlawn dros yr Ŵyl. Dim lle i droi. Rhoddais eich mab Beniwda gyda chwi, a'ch gwraig a'ch merch yn yr ystafell nesaf."

"Campus. Diolch yn fawr."

"Ie, wir, un mentrus yw'r proffwyd o Nasareth. Petai gwŷr y Deml—a begio'ch pardwn, Syr—wedi cael gafael ynddo . . . "

"Y dyn o Nasareth oedd y Brenin,' felly?"

"Ie, Syr, Iesu fab Joseff o Nasareth. Rhai garw yw'r Galileaid 'ma, y mae'n rhaid imi ddweud, er i mi gael fy nysgu i'w casáu. Am a wn i nad oedd yn well gan fy nhad Samariad na Galilead byth er pan gafodd ei dwyllo gan y gwerthwyr lledr hynny o Fagdala. . .

Gwelai Joseff fod Abinoam ar fin cychwyn ar stori arall a throes ymaith i frysio tua'i ystafell.

"Wel, gobeithio bod gennych ddigon o bysgod o Galilea, Abinoam, dyna i gyd!"

"Oes, Syr, faint a fynnoch. Mi gefais i ddwy farilaid o Fethsaida echdoe. Pysgod mawr hefyd ac wedi'u halltu'n dda. Mi wnes i i'r dynion a ddaeth â hwy yma agor y ddwy yn y cwrt imi gael . . ." Ond yr oedd Joseff ar ei ffordd i'w ystafell erbyn hyn, ac er mor hoff oedd Abinoam o breblan, ni châi bleser mewn siarad ag ef ei hun.

Chwibanai Joseff wrth ymolchi a newid ei wisg, ond sylwai'r hen Elihu, a weinyddai arno, fod rhyw galedwch yn ei lygaid. A ddywedasai Abinoam rywbeth annoeth, tybed? Yr oedd y gwestywr yn un croesawgar a charedig dros ben—hyd yn oed i hen gaethwas—ond nid oedd ganddo ddim rheolaeth ar ei dafod.

"Rhywbeth o'i le, Syr?"

"O'i le? Pam, Elihu?"

"Meddwl fy mod i'n gweld cysgod yn eich llygaid chwi, Syr."

Chwarddodd Joseff ac yna chwibanodd alaw hen ddawns werin. Peth annifyr, meddai wrtho'i hun, oedd cael wyneb y gallai eraill ei ddarllen fel rhòl.

"Gellwch fynd yn awr, Elihu."

"Ond nid ydych wedi gorffen gwisgo, Syr."

"Bron iawn. Ac y mae arnoch chwithau eisiau bwyd."

"O, o'r gorau, Syr." Ac aeth Elihu ymaith â golwg braidd yn syn arno.