Tudalen:Yr Ogof.pdf/57

Gwirwyd y dudalen hon

Beth oedd bwriad y Nasaread ynfyd hwn, tybed? gofynnodd Joseff iddo'i hun. Brenin,' wir! Pam na roesai gwylwyr y Deml eu dwylo arno? Ofni'r dyrfa, wrth gwrs. Ie, rhai garw, chwedl Abinoam, oedd y Galileaid. Codai rhyw ffŵl o broffwyd yn eu plith o hyd o hyd a dilynent ef fel defaid. Ond yr oedd digon o wyneb gan hwn i farchogaeth fel Brenin i Jerwsalem! Pam gynllwyn yr oedd y Phariseaid yn dal i fagu'r gobaith am Feseia yn y bobl? Hwy a'i gwnâi hi'n bosibl i ryw weilch fel hyn afael yn eu dychymyg. Byddai'n herio awdurdod y Deml ei hun cyn hir. Ac awdurdod y Sanhedrin.

Yr oedd y werin yn fwy anniddig nag y cofiai Joseff hi, gan mai trymhau yr oedd trethi Rhufain a threthi'r Deml bob gafael, a gallai rhyw derfysgwr fel hwn yn hawdd yrru'r grwgnach yn wrthryfel. Druan o'r wlad os digwyddai hynny! Fe ruthiai'r llengoedd Rhufeinig i lawr o Syria ac i fyny o'r Aifft, a llym fyddai'r dial. Gwgodd Joseff ar ei lun yn y drych o bres gloyw a safai wrth y mur. Hosanna i'r Brenin!' meddai'r dyn ifanc wrth ben yr asyn—ond nid oedd ef na'i 'Frenin' yn ddigon hen i gofio'r erchyllterau a fu pan gododd y bobl wedi marw Herod Fawr. Oni chroeshoeliwyd dwy fil o Iddewon yn Jerwsalem yn unig?

Yr oedd ei weithwyr a'i weision ef yn Arimathea yn weddol fodlon ar eu byd, diolch am hynny, meddai Joseff wrth y drych. Ond pe deuai terfysg—wel, yr oeddynt yn ddigon agos i Jopa, un o ganolfannau'r Selotiaid, i golli arnynt eu hunain. Un go gas oedd Reuben, goruchwyliwr yr ystad, ac efallai y byddent yn falch o'r cyfle i'w daflu ef dros Graig y Pwll. Cofiodd Joseff fod ei fab Beniwda yn un o wŷr Plaid Ryddid, a daeth i'w feddwl ddarlun sydyn o Feniwda yn arwain y gweision i ysbeilio pob ystafell yn y tŷ.

Ond, hyd y gwyddai, nid oedd cysylltiad rhwng y Nasaread a'r Selotiaid neu Blaid Ryddid. Na, fel Proffwyd y soniai'r hen Elihu amdano, ac fel un a gyflawnai wyrthiau ac a bregethai ryw efengyl newydd yr edrychai Othniel arno. A phan grybwyllid ei enw yn y Sanhedrin, ei boblogrwydd fel rhyw fath o arweinydd crefyddol a ofnai'r Cyngor. Nid oedd ef yn ŵr ariangar, meddai Joseff wrtho'i hun, ond os oedd y creadur hwn yn mynd i ymyrryd â threthi a degymau'r Deml, yna gwae iddo! A, wel, ei anwybyddu oedd y peth gorau,