Tudalen:Yr Ogof.pdf/58

Gwirwyd y dudalen hon

peidio â chymryd dim sylw ohono ef na'i ystrywiau i ennill poblogrwydd, anghofio'n llwyr amdano.

Galwodd yn ystafell ei wraig ac aethant i lawr gyda'i gilydd am bryd o fwyd. Yr oedd Rwth ar fin gorffen bwyta. "Ar frys, Rwth!" meddai'i thad wrthi, gan geisio swnio'n chwareus.

Gwridodd hithau, ond ni ddywedodd ddim.

"Y mae Rwth am fynd i weld un o'i ffrindiau, Joseff," meddai Esther. "Merch yr Archoffeiriad Caiaffas."

"O? Wel, os arhosi nes imi fwyta, dof gyda thi, Rwth. Y mae arnaf finnau eisiau galw yn nhŷ'r Archoffeiriad."

"Nid yno yr wyf yn mynd."

"Nage, mi wn. I gyfarfod y Canwriad Longinus, efallai?" "Efallai." Edrychodd y ferch yn herfeiddiol ar ei thad. "Ceisiais roi cyngor iti ddoe. Nid yw cyngor, y mae'n amlwg, o un gwerth, ac felly

"Felly?" Gododd Rwth i'w wynebu, ac anadlai'n gyflym. "Felly y mae'n rhaid imi d'atgoffa am yr hen orchymyn i anrhydeddu dy dad a'th fam. Rhag ofn na wyddost, golyga anrhydeddu ufudd-dod yn gyntaf oll."

"Os ydych yn fy ngorchymyn i beidio â gweld Longinus . . . " Ond ymyrrodd Esther cyn i'r helynt ddatblygu. "Dewch, Joseff, eisteddwch i fwyta. Gedwch iddi fynd am heno, gan iddi addo'i gyfarfod, ac yna cawn siarad am y peth tra bydd hi allan. Dewch, yr ydych bron â llwgu bellach. Ac wedi blino. Dewch."

Eisteddodd Joseff, a manteisiodd Rwth ar y cyfle i frysio allan, heb drafferthu i orffen ei bwyd.

Tawedog oedd y gŵr a'r wraig uwch eu pryd. Teimlai Joseff yn ddig wrth Esther am ddweud celwydd wrtho ac am ei reoli fel hyn byth a hefyd; ond gwyddai yn ei galon mai hi a oedd ben.

"Y mae'n hen bryd i'r ferch sylweddoli mai Iddewes ydyw hi," meddai o'r diwedd.

"Nid oes raid i chwi boeni amdani hi a'r Canwriad Longinus, Joseff. Mor ddall yw dynion!"

Chwarddodd Esther yn dawel, ac edrychodd Joseff arni heb ddeall.

"Ni welaf fi ddim i chwerthin am ei ben."

"Na wnewch, am na welwch ymhellach na'ch trwyn, Joseff bach. Y mae canwriad Rhufeinig yn dod i'ch tŷ, wedi