Tudalen:Yr Ogof.pdf/60

Gwirwyd y dudalen hon

Cyfeirio yr oedd Esther at yr unig araith o bwys a wnaethai Joseff yn y Sanhedrin. Y flwyddyn y methodd y cynhaeaf drwy rannau helaeth o'r wlad oedd honno, a chwynai'r Cynghorwyr am fod y bobl yn araf yn talu trethi'r Deml. Dadleuai rhai y dylid bygwth melltith ar bob un a fethai dalu, ond cododd Joseff yn sydyn i amddiffyn y bobl. Rhaid oedd llacio'r trefniadau mewn ardaloedd gwledig, meddai: gwyddai ef am deuluoedd a oedd ar fin llwgu. Edrychodd ei gyd-Gynghorwyr yn syn arno. Y Sadwcead moethus o Arimathea yn teimlo'n dosturiol! Wel, wir, nid aethai oes y rhyfeddodau heibio! Chwarddodd amryw, a mingamodd eraill. A phan ddychwelodd adref, dywedodd Esther wrtho am beidio â bod mor feddal. Bodlonodd wedyn ar fynd yn anaml i'r Sanhedrin—a chau'i geg pan âi yno.

"Ni wn faint o weithiau yr ydych wedi edliw hynny imi, Esther. Ond yr oedd y cynhaeaf yn ofnadwy o ddrwg y flwyddyn honno, a sut yn y byd y gallai teuluoedd tlawd fel un yr hen Seth yn Arimathea acw gael arian i . . .?"

"Mater i Seth, nid i chwi, oedd hwnnw. Ond fel y dywedais, dyma gyfle i chwi, Joseff. Y Nasaread."

"Nid wyf yn eich deall, Esther."

"Clywais beth o'r stori a adroddai Abinoam wrthych. A chefais y gweddill gan un o'r morwynion. Y mae'n sicr fod yr Archoffeiriad Caiaffas yn wyllt."

"Ydyw, y mae'n siŵr. A'r hen Annas yn wylltach fyth. Pan oedd Annas yn Archoffeiriad, nid oedd wiw i un proffwyd ac yr oedd degau ohonynt i'w cael, wrth gwrs—godi bys na bawd. Ond . . . ond sut y mae a wnelo hyn â mi, Esther?"

"Nid wrth eistedd fel mudan yn y Sanhedrin y mae dod yn rhywun ynddo. Rhaid i chwi godi i ddadlau dros neu yn erbyn pethau."

"Yn erbyn beth, Esther?"

"Y Nasaread hwn, er enghraifft. Gwyddoch fod Annas a Chaiaffas a'r Cyngor i gyd yn ei gasáu. Rhaid i chwithau ei gasáu. Ac yn ffyrnig. Codwch yn y Cyngor, areithiwch, ysgydwch eich dyrnau, ymwylltiwch.

"Ond ni welais i erioed mo'r dyn."

"Pa wahaniaeth am hynny?"

"A pheth arall, nid ysgydwais i fy nyrnau erioed yn y synagog yn wyneb yr hen Joctan, heb sôn am yn y Sanhedrin.