Tudalen:Yr Ogof.pdf/63

Gwirwyd y dudalen hon

"Dim yr wythnos hon, Esther. Y mae 'na gannoedd o filwyr Rhufeinig yma dros yr Ŵyl."

Dringodd yn hamddenol drwy sŵn y ddinas. Ie, Esther a oedd yn iawn yr oedd yn bryd iddo ymysgwyd a dyfod i sylw o'r diwedd. A rhoddai'r Nasaread haerllug hwn gyfle iddo. Gwnâi, a gallai ef ysgwyd ei ddyrnau cystal â neb. Lluniodd Joseff frawddegau ffyrnig i'w traddodi wrth Gaiaffas, a dychmygai'r Archoffeiriad yn gwrando'n edmygol arno. Ond rywfodd, o dan ddifrawder hen y sêr, ni theimlai'n llawn mor sicr ohono'i hun.

Fel y gadawai Longinus Gaer Antonia, y gwersyll Rhufeinig, i gyfarfod Rwth, clywai fanllefau tyrfa fawr yn codi o ddyffryn Cidron islaw mur dwyreiniol y Deml. "Hosanna!" yn fanllefau un ennyd, ac yna llafar—ganai'r dorf eiriau na ddeallai ef mohonynt. A oedd y gorymdeithio hwn yn rhan o Ŵyl y Pasg, tybed? Oedd, yn fwy na thebyg, rhywbeth fel hwyl y Groegiaid yn y gwanwyn pan orymdeithient i foli'r duw Dionysos.

Brysiodd i lawr heibio i'r Deml. Gwelai lu cyffrous yn chwifio cangau palmwydd ac yna'n eu taenu ar y ffordd, gan sefyll o'r neilltu wedyn i aros am rywun. Eu Harchoffeiriad, efallai, ac wedi iddo gyrraedd, byddai'n cynnal rhyw ddefod yn y Deml. Daliai pawb i weiddi "Hosanna!" a nesâi yn awr y dyrfa a lafar—ganai, rhai yn canu un llinell ac eraill yn ateb â'r nesaf. Safodd Longinus yntau ar fin y ffordd, gan deimlo'n dawedog iawn yng nghanol yr holl orfoledd hwn.

Aeth ugeiniau heibio ac uchel oedd eu "Hosanna!" a'u mawl. Ond sylwodd Longinus ar dwr o wŷr mingam wrth ei ymyl, rhai gelyniaethus, yn amlwg, i'r rhialtwch hwn. Gwŷr gor-grefyddol, efallai, yn anghymeradwyo rhyw hen ddefod fel hon. Ymhen ennyd, gŵyrai pawb ymlaen ac aeth y gweiddi a'r chwifio'n wylltach fyth. Yr oedd yr Archoffeiriad gerllaw.

Llwyddodd Longinus i gadw'i le yn y rhes flaenaf ar ochr y ffordd a phlygodd yntau ymlaen, gan ddisgwyl canfod pasiant o liwiau hardd, o wisgoedd gorwych offeiriaid a morwynion ac o flodau a llysiau'r gwanwyn. Hynny a welsai ganwaith wrth demlau Rhufain. Ond y cwbl a welai yn awr oedd rhyw ddyn ar asyn ac o'i gwmpas fagad o wŷr cyffredin iawn yr olwg.

"Pwy ydyw?" gofynnodd i ddyn wrth ei ymyl.