Tudalen:Yr Ogof.pdf/66

Gwirwyd y dudalen hon

yn fab i'r Seneddwr blaenllaw, wele ef mewn gwersyll yn Jopa, yn ceisio ac yn methu camu ac ymsythu fel milwr.

Un hwyr o hydref, wedi syrffedu ar chwarae disiau yn y gwersyll, aeth allan i gerdded wrth lan y môr. Cyn hir eisteddodd ar ddarn o graig, gan deimlo'n unig iawn. Yr oedd y môr yn borffor gloyw o'i flaen a nef y gorllewin yn oraens ac aur a thân. Syllodd yn drist dros y tonnau. Ar gefndir gogoniant machlud fel hwn y gwelsai'r caethwas Phidias yn hongian ar groes. Ac wrth gofio hynny aeth meddwl Longinus yn derfysg i gyd.

Nid caethwas yn unig a fuasai Phidias yn y plas yn Rhufain; yn wir, edrychai'r llanc Longinus arno fel cyfaill, bron fel aelod o'r teulu. Rhoesai ei dad arian mawr amdano yn y farchnad, fel anrheg i'w fab pan ddaeth Longinus i oed a chael gwisgo'r toga fel dinesydd Rhufeinig, ac yr oedd Phidias yn werth pob drachma o'r arian hynny. Yr oedd yn ddyn ifanc hardd a chryf, o deulu hynod yng Ngroeg, yn ddeallus a dysgedig a dwys; ond yn anffodus, daliwyd ef a llu o wŷr ifainc tebyg iddo mewn cynllwyn yn erbyn y Rhufeinwyr. Llusgwyd hwy ymaith i'w gwerthu ym marchnad y caethion yn Rhufain.

Yn anffodus i'r Groegwr, ond yn ffodus i'r bachgen Longinus. Oherwydd yr oedd Phidias yn fyfyriwr ac yn athronydd, a buan y dechreuodd agor meddwl ei feistr ifanc i ryfeddodau llenyddiaeth Roeg. A chyn hir gadodd y Seneddwr Albinus i Phidias fod yn fwy o athro a chynghorwr nag o gaethwas i'w fab, ac fel y llithrai'r blynyddoedd heibio daeth y llanc i edrych ar y Groegwr fel ei gyfaill pennaf. Ato ef y rhedai ym mhob dryswch ac ar ei farn ef y gwrandawai bob amser. A phan benderfynodd Longinus fynd yn gyfreithiwr, treuliai'r caethwas ei oriau hamdden i gyd yn astudio'r gyfraith; yn wir, dysgai'r Rhufeinwr ifanc fwy yng nghwmni Phidias nag a wnâi wrth draed ei athrawon.

Cododd Longinus oddi ar y darn o graig yr hwyr hwnnw yn Jopa a cherddodd yn anniddig ar hyd y llwybr creigiog tua'r porthladd a'r dref. "Phidias, Phidias," a sisialai'r tonnau ar y traeth islaw, ac erbyn hyn diferai dafnau o waed tros aur ac oraens y machlud.

Byddai diwedd enbyd Phidias yn gysgod tros ei fywyd oll. Ni fedrai fyth ddileu o'i feddwl a'i freuddwydion y darlun ofnadwy o'r caethwas hoff yn hongian ar groes.