Tudalen:Yr Ogof.pdf/68

Gwirwyd y dudalen hon

Gwthiodd ei gleddyf yn ôl i'r wain ac yna cydiodd yn y rhòl â'i ddwy law, gan geisio'i rhwygo'n ddau. Ond yr oedd y memrwn yn rhy gryf o lawer i hynny. Gwylltiodd Galio a thynnodd ei gleddyf allan eto. Daliodd y rhòl yn ei law chwith a chododd ei gleddyf yn ffyrnig, gan feddwl slasio'r memrwn yn ddarnau.

Neidiodd y caethwas ymlaen a chipio'r rhòl o'i law.

Safodd Galio yn syn, ennyd, heb wybod yn iawn beth a ddigwyddasai. Edrychodd yn ffôl ar ei law chwith, a'i geg yn agored, ac'yna rhythodd yn hir ar Phidias fel petai'n methu credu i gaethwas feiddio ymyrryd ag ef. Rhegodd, a chamodd ymlaen i'w drywanu â'i gleddyf.

Ond cyn iddo daro, cydiodd Phidias yn y llaw a ddaliai'r cleddyf, ac aeth yn ymdrech ffyrnig rhwng y ddau. Gwthiwyd y caethwas yn ôl o laswellt yr ardd i'r llwybr caregog gerllaw, ond yno safodd, a chyda thro sydyn, hyrddiodd y cleddyf o law ei wrthwynebydd meddw. Baglodd Galio, a gwelai Longinus ef yn honcian yn ei ôl ar hyd y llwybr mewn ymdrech wyllt i gadw ar ei draed. Yna syrthiodd, a chlywodd Longinus a'r caethwas mewn dychryn sŵn ei ben yn taro ar un o'r meini callestr hyd ymyl y llwybr. Ochenaid, ac yna llonyddwch.

"Phidias! Phidias! Ymaith â thi ar unwaith!"

Tynnodd Longinus hynny o arian a oedd ganddo o'r pwrs yn ei wregys a gwthiodd hwy i law'r caethwas.

"Na, Syr, na.

Ond pa un bynnag, yr oedd hi'n rhy hwyr. Rhuthrai Darius, pennaeth y gweision, o gyfeiriad y tŷ. Aeth Phidias ymaith yn ufudd gydag ef.

Brysiodd Longinus i'r ddinas i ymbil â'i dad tros y caethwas. Ond ofer fu ei ymchwil amdano. Nid oedd yn y Senedd-dŷ, nid oedd yn y Fforwm, nid oedd yn un o'r Praetoria, nid oedd ym mhlas y Tywysog Gaius. Wedi hir chwilio, deallodd i'r Seneddwr Albinus gael ei alw ymaith yn sydyn i weld yr hen Ymerawdwr Tiberius yn Ynys Capri. Dychwelodd Longinus adref a chael bod y caethwas wedi'i drosglwyddo i ddwylo'r milwyr.

Fel y safai ar y llwybr wrth draeth Jopa y noson honno o hydref, gwelai Longinus groes yn erbyn aur a gwin a gwaed y machlud. Cofiodd fel y rhuthrodd o le i le drwy'r dydd hwnnw pan ddaliwyd Phidias a'i garcharu—i grefu ar rai o