Tudalen:Yr Ogof.pdf/69

Gwirwyd y dudalen hon

gyfeillion ei dad, ar bob Seneddwr a adwaenai, ar rai o swyddogion y Fyddin, ar weinidogion y Tywysog Gaius, ar rywun â dylanwad ganddo. Cafodd addewidion a hanner addewidion, a charlamodd yn ffyddiog i'r gwersyll lle'r oedd y caethwas. Y caethwas a laddodd filwr? gofynnodd rhyw ganwriad anfoesgar iddo. O, yr oedd hwnnw'n derbyn ei haeddiant. Os hoffai Longinus fynd am dro i lawr at Domen y Grog wrth yr afon—a chrechwenodd y dyn.

Ar ei ffordd i lawr tua'r afon Tiber, yr oedd meddwl y cyfreithiwr ifanc yn drobwll chwyrn a'r addewidion a'r hanneraddewidion fel crinddail yn troelli ynddo. Pan ddaeth i olwg Tomen y Grog, gwelai fod amryw o groesau wedi'u codi arni. Rhuthrodd ymlaen ag ofnau yn dân a niwl yn ei ymennydd; yn wayw llachar, ennyd, ac yna'n gaddug a'i dallai'n llwyr. Caethwas o'r enw Phidias? meddai'r canwriad a ofalai am y milwyr yno. Y drydedd groes. A throes ymaith i siarad â rhai o'i wŷr. Cydiodd Longinus yn wyllt yn ei fraich. Gwelsai'r Seneddwr Paulus, meddai, a'r Seneddwr Antonius a'r Seneddwr Tristus a buasai yn swyddfa'r Cadfridog Lucianus ac yn . . . A oedd ganddo warant i atal y cosbi? gofynnodd y canwriad. Nac oedd, ond yr oedd yn fab i'r Seneddwr Albinus a gwyddai y byddai'i dad, cyn gynted ag y dychwelai o Ynys Capri, yn ymyrryd i geisio achub y caethwas. Cododd y canwriad ei ysgwyddau: cawsai ef ei orchmynion, a rhaid oedd iddo wneud ei ddyletswydd, onid oedd?

Yn araf, fel pe mewn llesmair, cerddodd Longinus i gyfeiriad y groes. Chwarddodd milwr yn rhywle gerllaw, a swniai'r llais fel un o fyd ac o oes arall. Trawodd ei droed yn giaidd yn erbyn carreg finiog, ond prin y teimlai'r boen. Draw ymhell bell, gyfandiroedd a chanrifoedd i ffwrdd, yr oedd y machlud yn fflam. Ac o'i flaen, yn ofnadwy o agos, yn rhy agos i fod yn gelwydd, yr oedd y ffyddlonaf a'r harddaf o wŷr ar groes a'i wyneb yn ing cyfrodedd.

"Phidias!"

Ciliodd rhychau'r arteithiau, dro, a llithrodd gwên gysurlawn i'r llygaid. Dihangodd Longinus a'i galon yn floedd o'i fewn. Curodd eto wrth ddrysau'r Seneddwr Paulus a'r Seneddwr Antonius a'r Seneddwr Tristus a'r Cadfridog Lucianus, ond oeraidd fu ei dderbyniad. Rhaid bod y caethwas yn un peryglus iddo gael ei gosbi mor ddiymdroi,