Tudalen:Yr Ogof.pdf/70

Gwirwyd y dudalen hon

ac wedi'r cwbl, nid oedd ond caethwas a mawr oedd ei drosedd. Yr oeddynt hwy'n sicr y cytunai'r Seneddwr Albinus, pan ddychwelai o Gapri, â'r ddedfryd; ni allai Rhufain, yn arbennig yn y dyddiau direol hyn, fforddio bod yn dirion. Dyn a wyddai beth fyddai'r canlyniad pe dechreuent roi lle i feddalwch . . . Mentrodd Longinus i blas y Tywysog Gaius. Yr oedd ef mewn gwledd ac yn hanner—meddw cyn iddi ddechrau, a hyd yn oed pe gallai Longinus ei weld, byddai Gaius yn falch o gyfle i chwerthin am ben mab i'r Seneddwr Albinus casâi unrhyw un a oedd yn ffafr yr Ymerawdwr. Yn ei ôl ag ef at y Seneddwyr, ond collent hwy amynedd erbyn hyn nid oedd caethwas yn werth yr holl helynt hon: yr oeddynt yn ddigon rhad yn y farchnad: pe prynai'r Seneddwr cyfoethog ddwsin yn ei le, ni fyddai'i bwrs yn llawer ysgafnach.

Oddi tano, o'r rhimyn tywod ar draeth Jopa, daeth eto chwerthin y ferch â'i llais mor debyg i un ei chwaer Tertia. Gwelai Longinus bedair o enethod yn dringo'r creigiau i'r llwybr lle safai ef, ac ymhen ennyd camodd o'r neilltu iddynt fynd heibio iddo. Dim ond marwydos oedd y tân yn y gorllewin erbyn hyn, ond ymhell o'i ôl, tros ysgwydd un o fryniau Effraim, dringai'r lloer fel olwyn arian i blith y sêr. Llithrodd troed un o'r merched ar ddarn o wymon ar y llwybr, a chydiodd Longinus yn ei braich.

"Maddeuwch imi."

"Maddau i chwi! Oni bai i chwi gydio ynof buaswn wedi syrthio."

Llais Tertia i'r dim. Wyneb a gwallt Tertia hefyd.

"Y mae'n beryglus i ferched ifainc grwydro mor hwyr i le mor unig."

"O, yr ydym yn bedair. A gallai Maria lorio dwsin of ddynion!"

Nodiodd, gan chwerthin, tua'r gawres wrth ei hochr: gwenodd Maria.

"Ond yr ydym yn ddiogel yn awr," chwanegodd y ferch, "â chanwriad Rhufeinig i'n gwarchod."

Cerddodd Longinus yn ôl gyda hwy, ac yr oedd siarad a chwerthin y ferch fel awel iach i un ar fygu yng nghell ei atgofion. Deallodd mai ei henw oedd Rwth, fod ei chartref yn Arimathea rai milltiroedd i ffwrdd, fod ei thad yn aelod o Brif Gyngor yr Iddewon, fod ei brawd Othniel yn glaf o'r parlys,