Tudalen:Yr Ogof.pdf/71

Gwirwyd y dudalen hon

fod—ond yn wir, cafodd hanes y teulu oll gan yr eneth lon a didwyll. Mor ddiniwed ac ymddiriedus â Thertia! meddai wrtho'i hun, gan ddychmygu mai ei chwaer a barablai ac a chwarddai wrth ei ochr. Yr oedd yn falch pan addawodd hi ei gyfarfod eto y noson wedyn.

Dim ond y ddwywaith hynny y gwelodd Longinus Rwth yn Jopa. Dychwelodd hi i Arimathea ac anghofiodd ef am y ferch a oedd mor debyg i'w chwaer Tertia. Ond ymhen rhai misoedd, cafodd gyfle i fynd adref i Rufain am dro, ac ar y fordaith yn ôl i Ganaan achubodd y Roeges fach o'r môr. Pan gyrhaeddodd Jopa a dyfalu beth a wnâi ag Alys, cofiodd am yr eneth o Arimathea a'i sôn am y plas o dŷ lle trigai ac am ei thad, Cynghorwr pendefigaidd. Mentrodd ddwyn Alys yno gan erfyn ar y teulu ei chymryd fel caethferch. Galwai yn Arimathea yn weddol aml wedyn—i holi am Alys, i fwynhau parabl a chwerthin Rwth, ond yn bennaf oll i ymgomio â'i brawd Othniel, y meddyliwr a'r breuddwydiwr tawel. Yn anffodus, credai Rwth mai i'w gweld hi y deuai, a mynnai ei dynnu ymaith o'r seiadau melys â'i brawd.

Dug y gyfathrach ag Othniel oleuni a hyder newydd i Longinus. Ailgydiodd mewn darllen ac astudio; magodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth, mewn crefydd, mewn athroniaeth; cafodd ail afael mewn bywyd. Mawr fu ei siom pan glywodd ei fod i'w symud o Jopa i Jerwsalem, ond rhaid oedd ufuddhau i'r gorchymyn. Ni welai fawr ddim o Othniel o hyn ymlaen. Oni . . . oni châi ei gyfaill claf ei iacháu gan y Proffwyd. A oedd rhywbeth yn y storïau rhyfedd am y gŵr hwn o Nasareth, tybed?

Llithrai'r atgofion a'r meddyliau hyn drwy ymennydd Longinus ar ei ffordd i lawr tua Phorth Effraim, lle'r oedd i gyfarfod Rwth. Pan gyrhaeddodd y fan, nid oedd hi yno, a safodd yn gwylio'r pererinion llwythog yn llifo i mewn a heibio i'r Porth. Oedai tyrrau tu fewn i'r Porth ei hun hefyd, yn bargeinio a dadlau, yn cyfnewid profiadau blwyddyn, yn sisial yn ddwys, yn clebran a chwerthin. Siaradai amryw ohonynt mewn Groeg, yr iaith ryngwladol, a deallai Longinus eu hymddiddan hwy. Daethai hwn o Ynys Creta a chawsai fordaith anghysurus—y caethion a oedd wrth y rhwyfau yn ceisio ymryddhau a dianc mewn ystorm; hwn, y bargeiniwr ystyfnig a fygythiai ddwyn ei borffor bob cam yn ôl i'r Gogledd oni châi ei bris amdano, o Dyrus; hwn o Alecsandria, ac