Tudalen:Yr Ogof.pdf/72

Gwirwyd y dudalen hon

uchel ei frolio am yr athrawon a'r myfyrwyr Iddewig yn y ddinas ddysgedig honno; hwn—ond gwelai Longinus Rwth yn brysio tua'r Porth.

Aethant y tu allan i furiau'r ddinas a dewis y llwybr a droellai drwy Ddyffryn Hinnom gerllaw. Yr oedd hi'n dechrau nosi, ond codasai lloer y Pasg yn barod, a chyn hir byddai'r hwyr yn olau fel dydd.

"Bu bron imi â methu dod," meddai Rwth.

"O! Pam?"

"Tada.

Cefais dafod ganddo ddoe am fy mod i'n rhedeg ar ôl Rhufeinwr, chwedl yntau, a heno, pan welodd fy mod i ar frys i fynd allan.." Chwarddodd yn ysgafn wrth chwanegu, "Ond yr oedd 'Mam yn sbort."

"Rwth?"

"Ie?"

"Y mae arnaf eisiau siarad â chwi."

"O'r annwyl, yr ydych yn swnio mor ddifrifol â Thada." Chwarddodd yn ysgafn eilwaith, a chredodd Longinus eto am ennyd, fel y gwnâi bob amser yng nghwmni Rwth, mai ei chwaer Tertia a gerddai wrth ei ochr.

"Yr wyf am ddweud stori wrthych, Rwth, stori a fydd yn ateb cwestiwn y buoch yn ei ofyn imi droeon yn ddiweddar." "Pam yr aethoch i'r Fyddin yn lle mynd ymlaen fel cyfreithiwr?"

"Ie. Digwyddodd rhywbeth yn Rhufain i'm dychrynu'n ofnadwy. Ni ddywedaf yr hanes hwnnw wrthych, Rwth, ond collais yn yr helynt fy nghyfaill gorau, y cywiraf o ddynion. Ni allwn aros yn Rhufain, heb fynd yn lloerig; yr oedd popeth a welwn, popeth a wnawn, yn f'atgoffa am fy ffrind. Penderfynais ymuno â'r Fyddin, a thrwy ddylanwad fy nhad, gwnaed fi'n ganwriad yn fuan iawn. Gyrrwyd fi i Jopa, ond haws oedd gadael cartref nag anghofio. Y dyddiau cyntaf hynny yn Jopa ceisiais fod yn filwr diofal, gan dybio y gallwn sgwario f'ysgwyddau ac yfed a sôn am ferched a chwarae disiau cystal â neb yn y gwersyll."

"Chwi! Nid un felly a welais i ar y llwybr hwnnw wrth y môr y noson gyntaf imi'ch cyfarfod, Longinus."

"Na, buan y dysgais na allwn wneud milwr torsyth ohonof fy hun.

A'r noson honno, wedi hen alaru ar y gwersyll, crwydrais i lawr at y traeth am dro. Ond wrth syllu ar y machlud, yr oedd f'atgofion am fy nghyfaill mor fyw ac mor