Tudalen:Yr Ogof.pdf/74

Gwirwyd y dudalen hon

"Ac i weld eich chwaer y deuech i Arimathea!"

Chwarddodd Rwth, ond ni swniai'r chwerthin mor llon yn awr.

"Ac i sgwrsio ag Othniel, wrth gwrs," chwanegodd yn fingam ymhen ennyd. "Longinus?"

"Ie, Rwth?"

"Pam yr ydych yn dweud hyn oll wrthyf heno?"

"Bûm yn meddwl siarad â chwi ers tro. Ond nid oeddwn am ddifetha'r amser hapus a gawn pan ddeuwn i Arimathea. Hunanol oedd hynny, efallai. Yna, y tro diwethaf imi'ch gweld, soniais wrthych fy mod yn cael fy symud i Jerwsalem

"Do . . . Wel?"

"Yr oeddych yn siomedig iawn. Deuech chwithau, meddech, i Jerwsalem. Onid âi'ch tad ymlaen â'r tŷ a fwriadai'i godi yma, yna caech aros gyda chyfeillion. Yr ydych yn ifanc iawn, Rwth—fel fy chwaer Tertia. Ac yn eneth dlos iawn."

"Diolch."

"Gyn hir, efallai, dychwelaf fi i Rufain. Credwn pan ymunais â'r Fyddin nad awn byth yn ôl yno ac ailgydio yn fy ngwaith fel cyfreithiwr. Ond bûm gartref unwaith, ac nid oedd fy hiraeth am fy nghyfaill mor llethol ag yr ofnwn y buasai. Efallai . . . 'Wn i ddim . . . Arhosaf yn y Fyddin am flwyddyn neu ddwy, y mae'n debyg. Ond tra bo'r ferch dlos o Iddewes yn talu sylw i'r milwr Rhufeinig.

"Yn rhedeg ar ei ôl, medd 'Nhad!"

"Y mae ambell lanc hardd o Iddew yn troi llygad siomedig ymaith i chwilio am gariad arall. Ni wna hynny mo'r tro o gwbl. Hoffai'r milwr Rhufeinig gael bod yn ffrind calon i'r ferch dlos o Iddewes—ac i'w chariad hefyd . . . Wel, dyna'r bregeth, Rwth!"

"Nid oedd yn rhaid i chwi wastraffu cymaint o anadl, Longinus."

"O?"

"Nac oedd. Yr oeddwn innau am roi pregeth debyg i chwithau!" A chwarddodd Rwth yn llon unwaith eto.

Ai actio yr oedd? Ceisiai Longinus weld ei hwyneb yng ngolau'r lloer, ond cerddent dan gysgod brigau blodeuog yr hen olewydd a safai hyd fin y llwybr.