Tudalen:Yr Ogof.pdf/76

Gwirwyd y dudalen hon


IV



NI chododd Joseff yn fore drannoeth. Melys, wedi'r daith hir o Arimathea, oedd gorffwys a gwylio patrymau'r heulwen ar y mur uwch ei wely. Dug un o forwynion Abinoam ei frecwast iddo, ac fel y mwynhâi'r ffrwythau wedi'u sychu, a'r bara a'r gwin, gwrandawai'n ddiog ar y gwahanol ieithoedd ac acenion a ddeuai o'r stryd islaw, a châi bleser yn dychmygu wynebau a gwisgoedd eu perchenogion. Yna, fel y codai'r cwpan gwin i yfed, arhosodd ei law yn sydyn.

"Y Nasaread! Y Nasaread!" meddai lleisiau cyffrous. "Ymh'le?"

"Ar ei ffordd i'r Deml! Ef a'i ddisgyblion!"

Ciliodd y lleisiau fel y brysiai'r bobl ymaith i fyny tua'r Deml. Cododd Joseff ar ei eistedd, gan feddwl eu dilyn, ond yna, gan daflu'i ben yn ddirmygus, pwysodd yn ôl ar ei fraich i orffen ei frecwast. Pam y dylai ef boeni am ryw ffŵl o saer fel hwn? Y ffordd orau i'w drin ef oedd peidio â chymryd sylw ohono. Beth oedd ei fwriad yr wythnos hon, tybed? Yr oedd yn amlwg ei fod yn manteisio ar yr Ŵyl a'i thyrfaoedd i geisio creu cynnwrf. Gobeithio'r nefoedd nad ymyrrai'r milwyr Rhufeinig ddim. Yr oedd y Rhaglaw Pilat yn un digon byrbwyll i orchymyn gwŷr Antonia i wasgaru'r dorf.

Pontius Pilat! Cofiodd Joseff am ei ddyfodiad i Ganaan a'r helynt a fu. Penderfynodd, cyn gynted ag y cyrhaeddodd y wlad, y dangosai'i awdurdod ei hun a nerth Rhufain i'r Iddewon hyn. Beth! meddai, y garsiwn yn Nhŵr Antonia yn Jerwsalem yn peidio â dwyn eu baneri i mewn i'r ddinas! Pam? Yn enw'r Ymerawdwr, pam? Ni adawai'r Iddewon i ddelw o fath yn y byd halogi'r Ddinas Sanctaidd, oedd yr ateb. O'n wir! gwaeddodd Pilat, yna caent weld pwy oedd pwy yn awr. Yr oedd garsiwn newydd ar fin cychwyn o Gesarea i Jerwsalem, a rhoes y Rhaglaw orchymyn iddynt fynd â'u heryrod Rhufeinig a'u cerfluniau o'r Ymerawdwr