Tudalen:Yr Ogof.pdf/77

Gwirwyd y dudalen hon

gyda hwy a llithro'n dawel i mewn i'r ddinas liw nos. Pan ddeffroes Jerwsalem fore trannoeth, cododd pob Iddew ei ddwylo mewn dychryn ac ymdaenodd y cyffro fel tân gwyllt drwy'r ddinas a thrwy'r wlad oddi amgylch. Llifodd y bobl i mewn yn gannoedd o'r pentrefi gerllaw, a cheisiai llawer o leisiau gwyllt chwipio'r dorf i wrthryfel. Ond cynghorion yr henuriaid yn eu plith a orfu, a phenderfynwyd danfon cynrychiolwyr i Gesarea i erfyn ar i'r Rhaglaw newydd ddileu'r gorchymyn a roesai i'w swyddogion yn Jerwsalem. Ac i Gesarea y brysiodd tyrfa ohonynt, yn barod i farw os byddai raid yn hytrach na dychwelyd heb lwyddo yn eu cais. Ond ni wrandawai Pilat arnynt. Syrthiasant ar y ddaear i ymbil tros eu pobl a'u Teml a'u Dinas Sanctaidd, ac yno y buont am bum niwrnod a phum nos. Ar y chweched dydd, galwodd y Rhaglaw hwy at ei orsedd yn y farchnadfa, ond cuddiodd filwyr yng nghefn y lle. Pan godasant yr un cri y tro hwn eto, amneidiodd Pilat ar swyddog, a rhuthrodd y milwyr i mewn â chleddyfau noeth. Ni ddychrynodd yr Iddewon: os marw a oedd raid, yna marw a wnaent. Tynnodd pob un ei wisg yn ôl oddi ar ei wddf a gŵyrodd ei ben o dan y cleddyf. Ildiodd Pilat yn sur ac anfoddog a gyrrodd orchymyn i Jerwsalem i gludo'r delwau'n ôl i Gesarea.

Pontius Pilat! Beth, gofynnodd Joseff iddo'i hun, a ddywedai ef pan glywai i'r Nasaread arwain gorymdaith i'r ddinas? Chwerthin yn ei ddwrn a wnâi'r Rhaglaw, yn fwy na thebyg, gan ei fod yn casáu'r Archoffeiriad Caiaffas, a chai hwyl wrth feddwl am y saer o Nasareth yn ennill y parch a hawliai Caiaffas a'i Deml sanctaidd.

Cofiodd Joseff ei addewid i Esther. Efallai y digwyddai rhywbeth yn y Deml a rôi gyfle iddo siarad â'r Archoffeiriad. Cododd i ymolchi ac ymwisgo'n frysiog.

"Aeth eich gwraig a'ch merch allan yn fore, Syr," meddai Abinoam wrtho yn y drws. "I'r siopau yn y Tyropoeon. He, rhai garw am wisgoedd newydd ydyw'r merched 'ma, onid e, Syr?"

"Byddaf yn ôl i ginio, dywedwch wrthynt, Abinoam." "Gwnaf, Syr. Mae ef i fyny yn y Deml y bore 'ma eto, Syr."

"Pwy?"

"Y Nasaread. Llawer o bobl yn rhuthro yno i'w weld a rhai yn dweud 'i fod e'n bwriadu . . . "