Tudalen:Yr Ogof.pdf/8

Gwirwyd y dudalen hon


I



YR oedd hi'n fore'r Sabath a pharatoai'r teulu a'r gweision a'r morwynion oll i fynd i'r synagog. Gofalai Joseff am hynny disgwyliai i bawb o'i dy ac o'r teios ar ei ystad fod yn y cwrdd. A chan mai ef a oedd piau'r rhan fwyaf o Arimathea, ei weithwyr a'i wcision ef oedd tri chwarter y gynulleidfa. Yn wir, "Tŷ Joseff" y gelwid y synagog newydd gan rai eiddigus o'i gyfoeth a'i awdurdod yn yr ardal. Yn bennaf am mai ef a roes y tir i'w godi arno ac a dalodd y rhan fwyaf o gost ei adeiladu, ond hefyd am na wnâi'r hazzan, y gweinidog, na'r Rheolwr fawr ddim heb ymgynghori ag ef yn gyntaf. Ni ddychmygai'r swyddogion am gynnal unrhyw gyfarfod arbennig heb ofyn barn Joseff ar y pwnc, ac ni ddosberthid arian y tlodion heb roi cyfrif manwl iddo. Ac ers blynyddoedd bellach, ef oedd Llywydd yr henuriaid a etholid gan y synagog i weinyddu'r gyfraith yn y cylch.

Teyrnasai Joseff fel brenin yn Arimathea. Yn arbennig ar y Sabath. Yn ystod yr wythnos gadawai'i weithwyr yng ngofal ei oruchwyliwr, Reuben, a phur anaml yr ymyrrai ef á hwy. Ond ar y Sabath taflai lygaid ymchwilgar arnynt oll, gan ddisgwyl iddynt ymddwyn yn deilwng o'r dydd. Nid ei fod yn orgrefyddol fel y Phariseaid, yn ceisio cadw pob math o fan reolau dienaid. O na, yr oedd y Gyfraith foel yn ddigon da iddo ef, fel yr oedd hi cyn i'r Phariseaid a'r Rabbiniaid ddyfeisio'n llu o orchmynion newydd. Gwneud bywyd yn faich i bawb yr oeddynt hwy a'u rheolau.

Aeth allan ar hyd llwybr y berllan, gan fwynhau heulwen y gwanwyn a gorfoledd yr adar. Pan gyrhaeddodd hi, pwysodd ar y glwyd wrth y ffordd fawr a redai i lawr y bryn tua'r pentref, a syllodd mewn balchder ar lethrau'r gwinwydd oddi tano. Er mai ef ei hun a ddywedai hynny, nid oedd gwinllannoedd i guro'i rai ef drwy holl Jwdea. Sylwodd gyda boddhad ar y frwynen wedi'i chlymu'n daclus am ambell gangen oddi ar y cangau hynny, a addawai roddi'r grawn-