Tudalen:Yr Ogof.pdf/80

Gwirwyd y dudalen hon

Rhaid oedd i bob un o'r pererinion dalu hanner sicl i Drysorfa'r Deml. Ond deuent hwy o bob rhan o'r byd, gan ddwyn gyda hwy arian llawer gwlad. Yr oedd delw o'r Ymerawdwr neu o ryw frenin neu dduw neu dduwies ar yr arian hynny, a phechod yn erbyn Iafe oedd dod â "delw gerfiedig" yn agos i'w Deml sanctaidd. Nid oedd cerflun ar arian y Deml nac ar arian Galilea, ac felly, y rhai hynny'n unig a oedd yn gymeradwy ger bron Duw. Rhaid oedd i'r pererinion fynd at fyrddau'r cyfnewidwyr i newid eu harian ac i dalu'n hallt am y gymwynas. Pwysai'r cyfnewidiwr y darnau o arian dieithr a'u cael, bron yn ddieithriad, yn brin. Uchel oedd y gweiddi a'r dadlau, ond wedi hir ymryson, y cyfnewidiwr a enillai, a thalai'r pererin druan gan regi'n chwyrn. Yna troai ymaith at werthwr anifeiliaid i brynu oen neu golomen i'w haberthu. Y cnaf hwnnw'n gwrthod cydnabod gwerth yr arian tramor. Yn ôl eto at fwrdd y cyfnewidiwr i newid mwy o arian ac i ddadlau'n ffyrnig unwaith yn rhagor. Dychwelyd at y gwerthwr a chael bod pris yr oen neu'r golomen wedi'i godi'n sydyn ar ryw esgus. Ond rhaid oedd aberthu onid i hynny y daethai'r pererin bob cam o Bersia neu'r Aifft neu, efallai, o Ysbaen? Mynd at fwrdd y cyfnewidiwr y trydydd tro—i gael ei dwyllo eto. Ac yn ei blas islaw'r Deml, gwenai'r cyn—Archoffeiriad Annas, er gwybod ohono mai "bythod meibion Annas" oedd yr enw a roddid i'r byrddau melltigedig hyn gwenai am mai i'w goffrau ef a'i deulu yr âi llawer o'r elw.

"Yr oedd y dyn yn cablu, Joseff," chwanegodd Malachi, gan ddal i ysgwyd ei ddyrnau ac i ddawnsio o amgylch.

"Oedd. Dyfynnu'r Proffwydi, os gwelwch chwi'n dda." "Beth oedd ei eiriau, Malachi?"

"Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i,' gwaeddodd â'i chwip yn ei law, eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.' Pwy yw ef i ŵyrdroi geiriau cysegredig y Proffwydi i'w amcanion ei hun? Pwy yw ef? Pwy yw ef?"

"Ie, pwy yw ef?" cytunodd Joseff, er y teimlai fod y term "ogof lladron" yn un pur gywir yn y cyswllt hwn.

"Gabledd yw peth fel yna, Joseff, cabledd a dim arall."

Edrychai'r hen frawd yn ddwys ar y llawr, ond goleuodd ei lygaid mewn llawenydd wrth ganfod sicl gloyw wrth ei draed.