Tudalen:Yr Ogof.pdf/81

Gwirwyd y dudalen hon

"Hei, Arah, Arah, dyma iti un!' gwaeddodd yn gyffrous ar ei fab. 'Faint gefaist ti?"

"Dim ond hanner sicl, 'Nhad," meddai llais digalon o dan y bwrdd gerllaw.

Gadawodd Joseff Malachi a'i feibion i'w hymchwil, gan geisio teimlo'n ddig tuag at y Nasaread a'i ehofndra. Yr oedd y dyn yn un gwyllt a digywilydd, a gorau po gyntaf y delid ac y cosbid ef. Ie, gorau po gyntaf y rhoid y terfysgwr hwn mewn cell . . . Ac eto, yr oedd hanner—gwên yn llygaid Joseff wrth iddo feddwl am brofedigaethau'r cyfnewidwyr arian.

Aeth ymlaen ar draws y Cyntedd enfawr a thrwy fwlch yn y Soreg, y clawdd rhyngddo a'r Deml ei hun. Yna dringodd y grisiau marmor i Gyntedd y Gwragedd. Cerddai'n gyflym a phenderfynol: hwn oedd ei gyfle i roi awgrymiadau Esther ar waith. Os oedd yr Archoffeiriad yn y Deml, meddai wrtho'i hun fel y brysiai drwy Gyntedd Israel ac i fyny'r grisiau i Gyntedd yr Offeiriaid a thua'r Allor, âi i siarad ag ef. A cheisiai, yn ffigurol, ysgwyd ei ddyrnau.

Arafodd ei gamau ac yna safodd, gan dynnu'i law trwy ei farf. Cymerai arno feddwl yn galed am rywbeth, ond mewn gwirionedd gwrandawai'n astud ar sgwrs dau Pharisead a safai yn nrws un o'r ystafelloedd a neilltuwyd ar gyfer aelodau'r Sanhedrin.

"Fe ddywedais i ddigon yn y Sanhedrin diwethaf," meddai un—gŵr bychan tew o'r enw Esras, o Gapernaum.

Cytunodd y llall, Isaac o Jericho—dyn tenau, hirdrwyn, a’i wefusau culion yn un llinell syth—drwy wneud sŵn hir yn ei wddf.

"Petai rhai ohonoch chwi'n dod i fyny i Gapernaum acw," aeth Esras ymlaen, "caech weld trosoch eich hunain. Y bobl wedi gwirioni'n lân ac yn ei ddilyn o le i le gan frefu fel defaid. Efallai y coeliwch chwi yrwan, wedi i chwi weld â'ch llygaid eich hunain."

Y sŵn yn ei wddf oedd ateb Isaac eilwaith.

"Wedi i'r un peth ddigwydd o dan eich trwynau chwi," chwanegodd Esras. "Yma yn Jerwsalem. A bore heddiw wel, gwelsoch wynebau'r bobl pan yrrodd y dyn y gwerthwyr a'r cyfnewidwyr arian o'r Cyntedd. Wrth eu bodd, Isaac, wrth eu bodd! A'r plant yn gweiddi Hosanna!' Yng Nghyntedd y Deml sanctaidd ei hun, Isaac!