Tudalen:Yr Ogof.pdf/82

Gwirwyd y dudalen hon

Y sŵn gyddfol eto, ac yna, "Efallai y dylem ni roi'r hanes i'r Archoffeiriad," meddai Isaac.

Troes Joseff i ymuno â hwy yn y drws. Nid oedd ef, y Sadwcead cyfoethog, yn hoffi'r Phariseaid, a phur anaml y llefarai air wrth un ohonynt. Ond yr oedd y ddau hyn yn weddol flaenllaw yn y Sanhedrin, ac ni fynnai iddynt fynd at yr Archoffeiriad o'i flaen ef.

"Clywais chwi'n sôn am y Nasaread hwn," meddai wrthynt. "Y mae'n hen bryd inni weithredu, gyfeillion."

"Ni"? "Cyfeillion"? Cododd y ddau aeliau syn.

"Ddoe," chwanegodd Joseff, "fe farchogodd fel Brenin i'r ddinas. A gynnau . . . "

"Fe'i gwelsom â'n llygaid ein hunain," meddai Esras. Gwnaeth Isaac sŵn yn ei wddf.

"Pwy y mae'r dyn yn feddwl ydyw?" gofynnodd Joseff.

"Fe ddaeth drwy Jericho 'cw ar ei ffordd yma," meddai Isaac. "A chyda phwy y lletyodd? Gyda'r pen-publican, Sacheus, dyn wedi'i werthu ei hun i Rufain, ac wedi pentyrru cyfoeth trwy dwyllo'r bobl. Ac un felly, un o gyfeillion Sacheus, sy'n galw'r Deml yn ogof lladron'! Os bu lleidr erioed, Sacheus y Publican yw hwnnw. Ond y mae'n debyg y gellir maddau iddo ond cael gwledda wrth ei fwrdd! A chlywais fod gwinoedd gorau'r wlad yn seler Sacheus!"

"Bwriadaf fynd i weld yr Archoffeiriad ynghylch y dyn,' meddai Joseff. "Yr ydym wedi dioddef yn ddigon hir."

Pam yr oedd y Sadwcead hwn wedi'i gyffroi fel hyn? oedd y cwestiwn ym meddwl Esras ac Isaac. Am fod y Nasaread wedi ymyrryd ag arian y Deml, yn sicr. Câi'r Sadwceaid eu cyfran o drethi'r Deml bob Pasg, ac ofnent, efallai, weld yr elw hwnnw'n lleihau Edrychodd y ddau Pharisead ar ei gilydd yn awgrymog. Ond Sadwcead neu beidio, meddyliodd Isaac yn gyflym, da o beth fyddai i hwn ddod gyda hwy at yr Archoffeiriad gwnâi'r unfrydedd argraff ar Gaiaffas.

"Yr oeddwn i'n awgrymu'r un peth i Esras 'ma," meddai. "Beth ped aem ein tri i siarad ag ef?"

Yr oedd gan yr Archoffeiriad ystafell iddo'i hun yng Nghyntedd yr Offeiriaid. Ond nid oedd ef yno, a brysiodd y tri o'r Deml a thros Bont y Tyropoeon tua'i blas mawr ar lechwedd Seion. Wedi iddynt ddringo'r grisiau o farmor a mynd i mewn i'r cwrt eang, agored, arweiniodd morwyn hwy i fyny i risiau llydain ac ar hyd oriel at ystafell Caiaffas.