Tudalen:Yr Ogof.pdf/83

Gwirwyd y dudalen hon

"I mewn!" gwaeddodd llais mewn ateb i'w churo.

"Cynghorwyr i'ch gweld, f'Arglwydd."

"Dewch i mewn, gyfeillion, dewch i mewn. Eisteddwch . . . Gwin?"

"Dim, diolch, f'Arglwydd," atebodd y tri. Aeth y forwyn ymaith.

"Daethom i'ch gweld . . . " dechreuodd Isaac.

"Ynglŷn â'r Nasaread," meddai Esras. "Clywsoch, y mae'n debyg, ei hanes yn marchogaeth fel Brenin i mewn i'r ddinas ddoe."

"Do."

"Wel, y bore 'ma . . .

"Clywais yr hanes hwnnw hefyd," meddai'r Archoffeiriad. "Newydd fy ngadael y mae'r Archoffeiriad Annas, a buom yn ymgynghori ar y pwnc."

"Y mae'n bryd inni wneud rhywbeth, f'Arglwydd," meddai Joseff. "Ydyw, wir, yn hen bryd." Araith y byddai Esther yn rhoi bendith arni, meddai wrtho'i hun. Ond pe gofynnai'r Archoffeiriad, "Gwneud beth?" gwyddai na wnâi ond ffwndro.

Cerddodd Caiaffas o amgylch yr ystafell, gan ymddangos yn ddwys a phryderus. A oedd ef felly mewn gwirionedd? gofynnodd Joseff iddo'i hun. Neu ai actio a wnâi? Ni wyddai neb pa bryd yr oedd y dyn hwn yn ddiffuant.

Ei dad yng nghyfraith, yr hen Annas deheuig a chyfrwys, a gymhellodd y Rhufeinwyr i wneud Caiaffas yn Archoffeiriad. Buasai Annas ei hun yn y swydd am naw mlynedd, ac yna, pan ddiorseddwyd ef, aeth ati i reoli drwy eraill a'i feibion a'i fab yng nghyfraith yn eu plith. Gan mai ef a oedd tu ôl i farchnad enfawr y Deml, yr oedd yn graig o arian—ac yn barod i ddefnyddio'r cyfoeth i'w amcanion ei hun. Os tywalltai Annas arian y Deml i goffrau pob Rhaglaw Rhufeinig wel, ei fusnes ef oedd hynny.

Clai yn ei ddwylo fuasai'r Archoffeiriaid o flaen Caiaffas. Codai Annas ei fys, a brysient ato fel gweision taeog at eu harglwydd. Ond nid felly Caiaffas. Diplomat oedd ef, yn cymryd arno ddilyn pob awgrym a wnâi 'i dad yng nghyfraith ond, mewn gwirionedd, yn awdur a pherffeithydd yr awgrymiadau hynny bron bob gafael. Ai at Annas gyda rhyw awgrym, ond gofalai drafod y mater yn wylaidd a gofyn