Tudalen:Yr Ogof.pdf/85

Gwirwyd y dudalen hon

"Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi, gyfeillion," meddai Caiaffas fel yr aent o'r ystafell. "A chredaf y llwyddwn i ddal y proffwyd bondigrybwyll o Nasareth. Ni feiddiwn roi'n dwylo arno yng ngwydd y bobl, wrth gwrs. Gwahodd helynt a chynnwrf fyddai hynny. Ond,"—a gwenodd yn frawdol arnynt—"y mae gan f'Arglwydd Annas a minnau gynllun."

Ni ddywedodd beth oedd y cynllun, ac ar ei ffordd i lawr tua Llety Abinoam ceisiai Joseff ddyfalu beth a allai fod. Annas yn adnabod rhywun a'u cynorthwyai? Un o ddisgyblion y dyn, efallai? Neu berthynas i un ohonynt? Dim gwahaniaeth yr oedd ef, y Cynghorwr Joseff o Arimathea, ar y pwyllgor cyfrin a gyfarfyddai drennydd ar y seithfed awr. Byddai Esther wrth ei bodd. Cerddodd Joseff yn dalog tua'r Llety i adrodd yr hanes wrth ei wraig. Ni sylwodd ar ei fab Beniwda'n llechu yng nghysgodion rhyw ddrws gerllaw.

Wedi i'w dad fynd heibio, brysiodd Beniwda i lawr tua siop Dan y Gwehydd yn Heol y Farchnad. Galwasai yno'r prynhawn cynt, yn union wedi iddo gyrraedd Jerwsalem, dim ond i ddeall bod ei ffrind Ben-Ami i ffwrdd ar ymweliad â'r milwyr cudd yn y bryniau. Ond disgwylid ef yn ôl yn ystod y nos neu yn oriau mân y bore.

Ped âi rhyw ddieithryn i mewn i siop Dan y Gwehydd, ni sylwai ar ddim anghyffredin ynddi. Gwelai Dan yn brysur wrth ei wŷdd, ei fab Ben-Ami wrth un arall neu wrth y droell nyddu, un neu ddau o wŷr diniwed a diog yr olwg yn teimlo darnau o frethyn ac efallai'n dadlau'n swrth yn eu cylch, eraill yn segura yn erbyn y mur neu'n eistedd ar yr hen fainc yng nghongl y siop i hel straeon, a'r hen hen ŵr Lamech, tad Dan, yn plygu'n anystwyth ymlaen ac yn ôl wrth ryw ddyfais anhydrin i gribo gwlân. A chlywai'r dieithryn, uwch sŵn gwenoliaid y ddau wŷdd, gwyno am y tywydd neu am brisiau gwlân neu am yr afiechydon a gludai'r cardotwyr aneirif i'r ddinas. Neu efallai y gwrandawai ar lais uchel a chrynedig Lamech yn adrodd ei helyntion ym myddin Jwdas o Gamala pan fanteisiodd y gwladgarwr hwnnw ar farw Herod Fawr i daro yn erbyn y Rhufeiniaid; a châi weld yr hen frawd yn ceisio, er gwaethaf y boen yn ei gymalau, actio'r gorchestion gynt, gan yrru'i waywffon eto ar un trywaniad drwy gyrff pedwar o'i elynion. Wedi iddo orffen ei neges, crwydrai'r