Tudalen:Yr Ogof.pdf/87

Gwirwyd y dudalen hon

rheolaidd â siop y Gwehydd yn Jerwsalem. Yr oedd y ddau yn debyg iawn i'w gilydd, a'u hwynebau yn denau a llym, heb fawr o hiwmor yn y gwefusau ond â'r llygaid yn fflachio'n wyllt bron yn ddibaid.

"Bûm i fyny yn y bryniau," meddai Ben-Ami. "Y mae Tera yn barod, yn aros am yr arwydd i daro. Y mae ganddo dros bedwar cant o wŷr, Beniwda, pob un yn werth dau o'r milwyr Rhufeinig. Cleddyfau, gwaywffyn, meirch—popeth yn barod. Un gair, a bydd ef a'i filwyr yn cychwyn liw nos." Siaradai'n gyflym a nerfus, rhwng ei ddannedd, gan droi ei ben yn sydyn i bwysleisio pob brawddeg. Ni ellid dychmygu neb mwy gwahanol i'w dad na'r gŵr ifanc anesmwyth hwn.

"Y mae'n aros am yr arwydd," meddai eto, gan edrych yn wyllt tuag at Dan. Ond yr oedd holl sylw'r gwehydd ar y gwŷdd.

"Bûm yn siarad â degau ohonynt," aeth ei fab ymlaen. "Pob un yn dyheu am yr ornest. Byddai Jerwsalem yn eu dwylo cyn i wŷr Antonia ddeffro."

"Cyn iddynt droi yn eu cwsg," ategodd Beniwda.

"Yr wythnos hon amdani," chwanegodd Ben-Ami. "Heno nesaf," meddai Beniwda.

"Ie, heno nesaf," Edrychodd Ben-Ami eto ar ei dad. "Byddai'r pererinion i gyd yn ymuno â hwy. Y mae arfau gan ugeiniau o'r rheini. Hwn yw'r cyfle, 'Nhad. Ni ddaw un arall am fisoedd. Tan Ŵyl y Pebyll, efallai.'

Nid atebodd Dan: yr oedd y patrwm o'i flaen yn un hynod ddiddorol. Dechreuodd Ben-Ami golli amynedd.

"Dim ond gyrru negesydd at Tera," meddai, "ac fe gychwynnai ef a'i fyddin ar unwaith. Byddai'r negesydd yno mewn teirawr."

"Mi awn i," cynigiodd Beniwda.

"A ninnau," meddai dau frawd, yr efeilliaid Abiram a Dathan, a eisteddai ar y fainc.

Clywyd rhywun yn chwibanu alaw hen ddawns Iddewig yng nghyfeiriad y drws. Hwn oedd yr arwydd iddynt newid pwnc yr ymddiddan.

"He, he, he!" chwarddodd yr hen Lamech tu ôl i'w beiriant cribo. "A chan mai dim ond un llygad a oedd ganddo, haerai y dylai gael mynd i mewn i'r arena am hanner y pris! Hanner yr hyn a âi ymlaen yno a welai ef, meddai, ac felly . . . "