Tudalen:Yr Ogof.pdf/9

Gwirwyd y dudalen hon

win gorau, y tynnid y blaenffrwyth ar gyfer y Deml yn Jerwsalem.

"Henffych, Joseff!"

Ei gymydog Joctan a ymlusgai heibio ar ddwy ffon : gan fod yr hen frawd mor fethedig, cychwynnai tua'r synagog ymhell o flaen pawb arall.

"Henffych, Joctan! Bore braf?"

Gwyddai Joseff beth fyddai'r ateb. Grwgnachwr heb ei ail oedd Joctan, a pha beth bynnag a ddywedech wrtho, chwiliai am rywbeth yn groes i hynny.

"Gweddol, wir, gweddol, Joseff, ond bod yr awel braidd yn fain, onid e ? Main iawn i hen bobl fel fi. A'r ffordd yn bell i'r synagog newydd, wrth gwrs."

Ergyd i Joseff oedd y frawddeg olaf. Pan aethpwyd ati i godi'r synagog, dadleuai'r hen Joctan mai ar y llethr gerllaw ei dŷ ef y dylid ei hadeiladu. Byddai hynny'n hwylustod mawr iddo ef, a gwnâi les i bawb arall gerdded bob cam i fyny o'r pentref. ryw filltir o ffordd. Siaradai'n huawdl ar y pwnc, er na chyfrannai'r hen gybydd ond ychydig iawn tuag at y treuliau.

"A ewch chwi i Jerwsalem at y Pasg, Joctan?"

"Ddim eleni, Joseff, ddim byth eto, y mae arnaf ofn. Na, rhy hen i'r daith, bellach. Mi fentrais y llynedd, fel y cofiwch chwi, a bûm yn fy ngwely am dair wythnos wedyn. Rhy ffaeledig i ddim erbyn hyn, er fy mod i'n gwneud fy ngorau i gyrraedd yr hen synagog newydd 'na bob amser mewn pryd er gwaethaf y pellter a'r . . ."

"O, fe gryfhewch chwi eto gyda'r gwanwyn 'ma a'r tywydd cynnes, Joctan."

"Na wnaf." Yr oedd ei dôn yn llym a herfeiddiol, a hyfdra oedd i neb amau'r gosodiad.

Dyn tal a thenau oedd Joctan a'i wyneb wedi crebachu fel hen afal—ond afal sur. Clymodd Amser ugeiniau o linynnau tros ei wyneb a'u tynhau gymaint nes bod yn rhaid iddo aros ennyd i geisio'u llacio cyn trio gwenu neu synnu neu fynegi rhywbeth ar wahân i'w sarugrwydd gwastadol. Ef oedd echwynwr yr ardal, a gwae'r neb a fethai dalu'r llog iddo.

"Pa bryd y cychwynnwch chwi, Joseff?"

"Bore yfory. Y mae arnaf eisiau gweld amryw o bobl yn Jerwsalem cyn yr Ŵyl. Ac efallai y bydd yn rhaid imi fynd i rai o bwyllgorau'r Sanhedrin."