Tudalen:Yr Ogof.pdf/98

Gwirwyd y dudalen hon

"Ni a wyddom dy fod yn eirwir ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion ond yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd . . ."

Rhyw ragymadrodd i ddenu holl sylw'r rabbi a'r bobl, meddyliodd Beniwda.

"Ai cyfreithlawn rhoi teyrnged i Gesar, ai nid yw? A roddwn, ai ni roddwn hi?"

Hwn oedd cwestiwn Dan y Gwehydd, a hoeliodd Beniwda'i sylw ar wyneb y Nasaread. Gwelai fod ei wefusai'n dynn a'i lygaid yn culhau. Nid atebodd am ennyd, dim ond edrych yn ddig ar y Pharisead a'i gyfeillion. Sylweddolodd Beniwda fod mwy yn y cwestiwn na chais Dan am ei gymorth yn erbyn y Rhufeinwyr. Clywsai fod y Phariseaid a gwŷr y Deml yn cynllwynio i'w ladd, ac os "Na" fyddai'i ateb, rhedent at y Rhaglaw i ddilorni'r terfysgwr peryglus ac i ofyn iddo'i daflu i un o gelloedd y Praetoriwm. Os "Ydyw" a ddywedai, yna fe gollai llawer o'r pererinion eu ffydd ynddo. Yr oedd cwestiwn Dan yn un onest a syml; ond ar fin y Pharisead, magl ydoedd. Ai Dan a ddymunodd ar y Pharisead ei ofyn trosto, tybed, er mwyn ei gadw'i hun o'r golwg? Yn fwy na thebyg, tybiodd Beniwda, ond efallai mai cyd-ddigwyddiad oedd i'r rhai hyn ofyn yr un cwestiwn.

"Pam y temtiwch fi, chwi ragrithwyr?" oedd yr ateb. Yna ymhen ennyd, ag awgrym o wên ar ei wefusau, daliodd y Nasaread ei law allan. "Dygwch imi geiniog fel y gwelwyf hi."

Estynnodd un ohonynt geiniog iddo a syllodd yntau arni. Edrychodd ar lun yr Ymerawdwr ar un ochr iddi ac ar yr argraff, ei deitlau Rhufeinig, ar y llall.

"Delw ac argraff pwy sydd arni?" gofynnodd.

"Eiddo Cesar," meddai'r Pharisead ac "wrth gwrs" yn ganiataol yn nhôn ei lais.

"Telwch chwithau eiddo Cesar i Gesar." Yna, a'r cysgod gwên yn diflannu o'i wefusau, "A'r eiddo Duw i Dduw."

Ni allai doctoriaid y Gyfraith, meddyliodd Beniwda, osgoi'r fagl yn fwy deheuig. Ni chytunai ag ef—ni ddylid talu dimai goch i Gesar—ond er hynny edmygai'i feddwl chwim a dwyster ei frawddeg olaf. Troes rhai o'r Phariseaid ymaith yn sarrug eu gwedd, a llefodd rhywun "Bw!" ar eu holau.