mewn Awdl, yn ol Rheolou Dosparth Morganwg;[1] o ganlyniad, y mae'r caethder y sonir am dano yn un lled rydd wedi'r cwbl.
Mae'n wir i'r Hen Ddosparth fod yn wrthodedig (ond yn Ngorsedd Morganwg) o'r flwyddyn 1451 hyd 1819; ond bellach y mae'r ddau Ddosparth-Morganwg a Gwynedd yr un mor warantedig; a chan fod y fath ryddid yn perthyn i'r Hen Ddosparth, barnwyf na ddylai ein Beirdd ieuaingc fod yn anwybodus o hyn.
Gwir nad yw yr awen bur yn ymddibynu ar wisgoedd o ffurf neillduol er dangos ei gogoniant; etto, os ei gwisgo o gwbl, rhodder iddi y gwisgoedd prydferthaf. Aur yw aur yn mhob ffurf; ond rhaid ei fathu wrth reol, o ran ffurf, pwys, a mesur, cyn ei wneyd yn benadur: a barnwyf y dylai yr aur barddonol gael ei doddi yn mathdy y meddwl, a'i dywallt allan ar leni mewn Mydrau odlog o leiaf; ac o'm rhan fy hun ystyriwyf mai gemau i addurno gwir farddoniaeth yw y Cynghaneddion. Mae'r fath gywreinrwydd celfyddydol wedi ei arddangos yn eu cynlluniad, fel y mae yn werth eu cadw yn barchus trwy yr oesoedd er dangos medrusrwydd ein tadau, a phrofi i'r byd mai nid barbariaid anwybodus oeddynt.
Os bydd i'r YSGOL FARDDOL fod yn foddion i ddysgu y Cynghaneddion a'r Mesurau, yn nghyd â rhoddi rhyw feddylddrych am deithi gwir farddoniaeth, i'n llenorion ieuainge sydd yn awyddu eu dysgu, byddaf wedi cyrhaedd fy amcan.
Gan fod Caledfryn ac ereill wedi traithu yn helaeth a manwl ar Rywiau Cerdd, &c., a chan fod yr Ysgol eisoes wedi chwyddo 16 o dudalenau yn fwy nag y bwriadwyd hi, y mae yn amlwg nas gallwn ymdrin â'r pethau hyny heb i'r llyfr fyned yn fwy etto, ac felly buasai yn rhaid ychwanegu y pris: o ganlyniad, yr wyf yn dymuno cael fy esgusodi.
Merthyr, Awst, 1869.
- ↑ Ffugiad gan Iolo Morganwg yw "Dosbarth Morgannwg". Nid yw'n cael ei gydnabod yn ddilys ar gyfer canu caeth mwyach.