Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BARDDONIAETH.

WRTH gyhoeddi llyfr ar Reolau Barddoniaeth, barnwyf y dylid ceisio, beth bynag, egluro beth sydd i'w ddeall wrth Farddoniaeth, er fod hyny yn waith anhawdd iawn. Camsynied mawr yw meddwl nad yw Barddoniaeth yn ddim mwy nâ gosod llinellau at eu gilydd yn rheolaidd wrth fesur, odl, a chynghanedd. Gellir gwneyd hyny yn gelfydd a chywrain, a'r cyfansoddiad yn y diwedd yn hollol amddifad o Farddoniaeth ; ac o'r tu arall, gellir gosod y Farddoniaeth buraf mewn iaith rydd. Beth yw Barddoniaeth, ynte? Dyna ofyniad anhawdd ei ateb mewn brawddeg, er fod doctoriaid wedi ceisio yn y dull canlynol:—Dywed un mai "Ffug" yw; y llall mai "Gwirionedd yn ei ffurf buraf" ydyw. Dywed y nesaf mai "Natur wedi ei gwisgo ag awen" ydyw; ond beth yw hyny drachefn? Dywed arall mai "Iaith y dychymyg a'r teimladau wedi ei gosod wrth fesur" ydyw. Dywedir hefyd mai "Gwirionedd wedi ei wisgo â mantell ffug" ydyw. Dichon fod y darnodion hyn i gyd yn gywir i raddau, a dim ond eu gosod at eu gilydd cynnwysant ryw fath o atebiad i'r gofyniad "Beth yw Barddoniaeth?" Y gwahaniaeth rhwng Athroniaeth a Barddoniaeth yw, fod y blaenaf yn dangos gwirionedd yn noeth, tra mae yr olaf yn ei wisgo â chyffelybiaeth, dychymyg, neu deimlad.

Mae yn ddigon amlwg fod Barddoniaeth yn gwisgo gwahanol arweddau neu ffurfiau. Mae iddi ei Ffurf Deimladol, Gyffelybiaethol, a Darluniadol; ac ymddengys yn fynych yn y gwahanol ffurfiau hyn yn yr un gerdd.

Mewn Barddoniaeth Deimladol, y gamp yw gweithio teimlad i'r cyfansoddiad mewn iaith mor afaelgar nes peri i'r darllenydd deimlo i'r byw wrth ei ddarllen; pa un bynag a fydd yn cael ei nodweddu â chyffelybiaethau crebwyllig ai peidio. Enghreifftiau nodedig o'r ffurf yma ar Farddoniaeth yw Galareb Dafydd ar ol Absalom; Galar y Parch. Joseph Harries (Gomer) ar ol ei fab, Ieuan Ddu o Lan Tawy; ac Hiraeth Cymro am ei Wlad mewn Bro Estronol, gan Cawrdaf. Pwy all ddarllen y llinellau canlynol yn briodol heb deimlo eu heffaith yn ymyraeth â llinynau tyneraf ei galon?

"O! fy mab Absalom! fy mab, fy mab Absalom:
O na buaswn farw trosot ti, Absalom, fy mab, fy mab!"