Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ETTO.

"Af i'w 'stafell unwaith etto,
Galwaf arno dan fy mhwn,—
JOHN! fy JOHN! dy dad sydd yma,
Arno sylwa'r un tro hwn.
JOHN! mae'th Fam islaw i'r grisiau'n
Tywallt dagrau er dy fwyn:
JOHN, fy mab! clyw'th DAD sy'n galw,
O mor chwerw'r ing mae'n ddwyn!'

*****
Marw'm JOHN roes ystyr geiriau
Gwell nâ holl Eirlyfrau'r llawr;
Gofid, Galar, o ran ystyr,
Sy'n dra eglur i mi'n awr;
Calon glwyfus, chwerwedd enaid,
Dwys ochenaid, chwerw hynt,
Dagrau heilltion, coll cysuron,
Hiraeth calon,—gwn beth ynt.—Gomer.


ETTO, YN GYNGHANEDDOL.

Edrychaf fi drwy ochain,—ar fwyngu
Derfyngylch y Dwyrain;
Ond p'le mae gwedd Gwynedd gain,
Bro odiaeth Ynys Brydain!

Ystyriwch mewn tosturiaith,—y gofid
A gefais ar f'ymdaith,
Yn ysig lawer noswaith,
A'm gorweddfa'n foddfa faith!

*****

Ow! na chawn mewn llonach hwyl
Droedfedd o Wynedd anwyl!—Cawrdaf.

Mae y darnau hyn, fel y gwelir, yn llwythog o deimlad byw a thyner, er nas gellir dweyd eu bod yn cynnwys meddylddrychau crebwyllig a darfelyddol; a barnwyf mai digon priodol yw galw darnau o'r fath yma yn Farddoniaeth Deimladol.

Mae Barddoniaeth Ddarfelyddol, neu Gyffelybiaethol, fynychaf yn cynnwys mwy o feddylddrychau crebwyllig nâ'r un Deimladol; ond gall y gwir Fardd blethu y Darfelyddol a'r Teimladol yn un cyfanwaith gorchestol. Wrth gyfansoddi Barddoniaeth Ddarfelyddol, dylid bod yn ddoeth a gofalus i ddefnyddio y cymhariaethau mwyaf naturiol a chydweddol â'r gwrthddrych y cyffelybir gwrthddrych arall iddo. Yn y gangen hon o Farddoniaeth y mae yr Athronydd Naturiol a'r Bardd