Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gwahaniaethu amlycaf. Ceir digonedd o enghreifftiau o Farddoniaeth Ddarfelyddol yn y Beibl; ond dichon fod ein cynnefindra ni fel cenedl â'r Ysgrythyrau er yn blant, yn beth rhwystr i ni weled y tarawiadau barddonol a gynnwysant. Dyma ddwy enghraifft heb fod yn annhebyg i'w gilydd:—

Cured y llifeiriant eu dwylaw,
A chyd ganed y mynyddoedd.

Y mynyddoedd a'r bryniau a floeddiant ganu o'ch blaen,
A holl goed y maes a gurant ddwylaw.

Wrth edrych yn athronyddol, neu anianyddol, ar y llinellau hyn, mae y meddwl a gynnwysant yn edrych yn wrthun i'r eithaf. Llifeiriant a choedydd yn curo dwylaw! Mynyddoedd yn bloeddio canu!! Nid oes dim synwyr yn y fath ddywediad i'r meddwl anianyddol, oblegyd nid oes gan lifeiriant na choedydd ddwylaw i'w curo yn nghyd, ac nid oes genau i ganu gan fynyddoedd ychwaith, ar un olwg. Etto y mae'r llinellau yn llawn o farddoniaeth, ac i lygad y Bardd y mae gan lifeiriant a choedydd ddwylaw gwir farddonol, y rhai a gurant yn nghyd ar archiad y gwynt.

Edrycher etto ar Farddoniaeth Ddesgrifiadol y Beibl :—

Y BEHEMOTH.

Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden,
Gewynau ei arenau ef sydd blethedig.
Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef,
Ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn, &c.

Y LEFIATHAN ETTO.

Ei falchder yw ei emau,
Wedi eu cau yn nghyd megys â sel gaeth.
Y mae y naill mor agos at y llall
Fel na ddaw gwynt rhyngddynt.
Wrth ei disian y tywyna goleuni,

*****
A'i lygaid ef sydd fel amrantau y bore.
Ffaglau a ânt allan,
A gwreichon tanllyd a neidiant o'i enau ef.
Mwg a ddaw allan o'i ffroenau,
Fel o bair neu grochan berwedig.
Ei anadl a wna i'r glo losgi,
A fflam a ddaw allan o'i enau, &c.

Dyma Farddoniaeth Ddesgrifiadol o'r iawn ryw, onide? Dyma gymhariaeth wir farddonol,—cyffelybu gwisg gragenog y croco-