Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dile i fantell o emau! Mewn gwirionedd, y mae'r holl ddesgrifiad yn rhy farddonol i'w esbonio heb ei anafu.

Dyma enghraifft neu ddwy etto o wir farddoniaeth, o hen lyfr Braminaidd, a ysgrifenwyd yn ol barn rhai gan Dandamis, yn amser Alexander Fawr, ac a gyfieithiwyd i'r Seisonaeg yn China, yn 1749.

Gwefusau y doeth ydynt ddorau trysordy,—
Pan agorir hwynt tywelltir gemau allan.

Prenau aur wedi eu trefnu mewn gwelyau arian,
Yw ynganiad brawddegau doeth mewn amser cyfaddas.

Gellir cael cannoedd o darawiadau barddonol o'r fath yn yr un llyfr, ond gadawir hwynt ar hynyna, er mwyn dyfod at Farddoniaeth Gynghaneddol Gymreig.

Pe gofynid i'r Anianydd Naturiol am ddesgrifio mieri, dywedai mai math o goed meinion, eiddil, pigog ydynt, rhy wan i dyfu yn uchel heb bwyso ar sylweddau ereill-fod eu blodau yn wynion, a'u ffrwyth yn fwyar duon, &c. Dyma ddesgrifiad y bardd o honynt :

"Coluddion ysgymmun cloddiau.—D. ab Gwilym.

Dyna gymhariaeth farddonol a naturiol, onide?—cyffelybu y mieri i berfedd wedi ei ysgymuno allan o'r clawdd! Pan yw yr Anianydd yn darlunlo ffynon, dywed ei bod yn cael ei ffurfio trwy fod tarth yn cael ei godi o'r môr i'r awyrgylch, ac yno yn tewychu, a disgyn yn wlaw ar ben mynydd, &c., a hwnw yn gweithio ei ffordd i lawr i'r ddaiar, ac yn tarddu allan drachefn yn ffynon o ddwfr gloyw. Ond dyma ddesgrifiad y bardd o honi:—

Gwin a groywwyd gan Grewr—yw Ffynon,
A gorphenol wlybwr;
Bron haf, dibrin i yfwr,
Ystên Duw i estyn dŵr.—Trebor Mai.

Dywed Rhyddiaith am y cwch gwenyn mai math o adeilad bychan haner crwn ydyw, wedi ei wneyd o wellt neu ryw ddefnydd arall, a thwll yn ymyl ei waelod i'r gwenyn fyned i mewn ac allan, &c. Desgrifia Barddoniaeth ef fel y canlyn:

Dinas athrylith adeiniog,—gweithfa
Bras goethfel llysieuog,
Ogof weithiol gyfoethog,—
Llafur greddf, yw'r gellfro grog.—M. Morganwg.