Hyderir fod yr ychydig sylwadau a'r enghreifftiau hyn yn ddigon o agoriad drws i'r efrydydd craffus weled beth yw Barddoniaeth.
Wrth adael y pwngc hwn, barnwyf mai priodol iawn fyddai cyfleu yn y fan yma
ENGLYNION HYFFORDDIANT,
a wnaeth Iolo Morganwg yn 1799, ar ddymuniad gwr ieuangc o Wynedd, er ei gyfarwyddo i wneyd Englyn yn gywir, blasus, a dyddan, &c.
Y Mebyn llawn grym hybwyll -hen Awen,
A'i neued goleubwyll,
Cenaist i ofyn canwyll
I ochel tyb a choel twyll.
Rheol ddigonol hardd ganu—Englyn,
Rhag annghlod i'r prydu,
Iawn addysg i weinyddu,
Eirian gamp yr Awen gu.
Ar ffysg, gair addysg a roddaf—yn rhwydd,
Yn yr hyn a fedraf;
A'i draithu'n rhad i'r eithaf,
Yn ol fy neall a wnaf.
Bydd gelfydd, gwybydd yn gall—y Mesur,
Ymosod i'w ddeall;
Nid yngan rhyw nâd annghall,
Yn wr dwl, fel hanner dall.
Cynghanedd hywedd sy'n hoywi—Englyn,
Mae'n annghlod bod hebddi;
I'w didwyll fodd o'i dodi
Ar gân y Bardd, hardd yw hi.
Bydded iawn gerdded yn gain—i'r llafar,
Er llifo'n felusgain;
A geiriau'r iaith yn gywrain,
Yn wê serch, yn iawn eu sain.
Fel awel dawel min dydd,—cyflafar
Ag adar o goedydd,
Ar led y cain wyrlodydd
Rho'r gân ffraw i rodiaw'n rhydd.