Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I'r daran buan ei byllt,—a'i llifoedd,
Boed llafar echryswyllt;
Gyrddlais ffrawdfawr, a gwawr gwyllt,
Swn rhaiadr, a sain rhywyllt.

Yn fore clyw gân firain—yr Eos,
A'i rhywiog ddolystain;
awn friaith hon i arwain
Awen dy serch i ferch fain.

Boed perffaith dy iaith, a'i dethol—yn iawn
Llawn enaid, a nerthol,
Yn taraw'n dra naturiol,
Hoywber ei phwyll, heb air ffol.

Iaith hygar, foddgar, ufuddgall—ei rhyw,
A fo rwydd ei deall;
Nod Awen, yni diwall,
Yw hawsder cain ystyr call.

Naws taerwyllt anystyriaeth,—daw allan,
A'i dwyllau llenyddiaeth
O bydew anwybodaeth,
Nid o iawn ffrwd Awen ffraeth.

Gwna'th Englyn, y dyn, a doniau—synwyr
Yn seinio drwy'r banau;
Addawaf iti'n ddiau,
Gan bob tafod glod yn glau.

Tyb coeth, meddwl doeth, a dawn—dienddysg,
Dod ynddi'n fywydlawn,
A gwiwfarn awen gyfiawn
Drwy'th holl waith, a'r iaith yn iawn.

Rheol, un ddethol, hen ddoethion—a gawn
Ar ganiad Englynion;
O cais, ag ymbwyll cysson,
Araul hynt y rheol hon.

Dod bwyll, yn ddidwyll, i dd'wedyd—ei wir,
Yn dy waith goleufryd;
A llafar heb dwyll hefyd
Yn y gerdd, yn iawn i gyd.

Dod lên ac Awen gywair—yn y gân,
Gan ei gwau'n gerdd Gadair,
Ias trynwyf heb estronair,
Dim ar wall, yn gall bob gair.