Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trwy'th gân boed anian a doniau—addysg
Rho iddynt y gorau ;
Rho nawdd i bob rhinweddau,
Ac i'w dilyn glŷn yn glau.

Nwyf anian, ar dân, yw'r deunydd—gorau,
Ac îriaith bur, gelfydd;
A'th glod yn teithio gwledydd
Ar draed cawr, yn fawr a fydd.

Serchog a bywiog dyb awen—îrddoeth,
Sy'n harddwch dysgywen;
A lliw myfyrdod llawen
Yw nod didwyll pwyll mewn pen.

Medru dyfalu'n fywlwys,—a ddylit,
Hardd eiliaw iaith gymmwys;
Ymarbod a thyb mawrbwys,
Ymddal doeth, a meddwl dwys.

Cais arwedd Rhinwedd, er rhanu—addysg
A'i wiwddoeth weinyddu;
Yn foddus tangnefeddu
Yw iawn gamp yr Awen gu.

Bid iachus bywyd uchel—y bergaingc,
Yn burgoeth ei hawel;
A dewrgais Pwyll diargel
A dreiddia'n fwyn drwyddi'n fêl.

Eneidia'r holl ganiadaeth—yn beraidd,
A bwriad uchelfaeth,
Berw eirian mwyn beroriaeth,
Ynïau ffraw Awen ffraeth.

Gwna'th Englyn fel hyn, cei fawl hardd—i'th gân,
A'th geinwaith awendardd;
O degwch ymbwyll digardd,
Unwn fyth i'th enwi'n Fardd.

Bardd penraith, dawn maith dyn mad,—y'th elwir,
A theilwng ddynodiad,
A'i awch hael am ddychweliad
Awen glaer i dir ein gwlad.

Dos bellach yn iach yn awr,—i'th ymgais
A'th amgyrch awenfawr ;
Na flina, byddi'n flaenawr,
Ini'n fardd, a'th enw'n fawr.—Iolo Morganwg.