Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR YSGOL FARDDOL.

RHAN I.—Y CYNGHANEDDION.

IFOR. Arthur, a fyddi di gystal â dysgu Rheolau Barddoniaeth i mi? Yr wyf yn hoffi Barddoniaeth yn fy nghalon, ac yn awyddus am ddysgu y Rheolau.

ARTHUR. Da iawn genyf dy fod yn hoffi Barddoniaeth, a dy fod yn awyddus i ddysgu pob peth sy fuddiol; ac unrhyw help a allaf fi ei roddi i ti, ti a'i cei gyda pharodrwydd. Ond yn awr, tuag at i ni ddeall ein gilydd ar y cychwyniad, gad i mi gael clywed genyt pa ranau o Reolau Barddoniaeth wyt am ddysgu?

I. O, yr wyf am eu dysgu i gyd; yn enwedig Rheolau y Mesurau Caethion, oblegyd yr wyf am ddyfod yn alluog i gyfansoddi yn y mesurau hyny fy hun.

A. Nid oes dim yn well i ddyn ieuange nâ gosod nôd digon uchel o'i flaen, a meithrin penderfyniad i gyrhaedd y nôd hwnw, trwy osod pob rhwystrau yn risiau dan ei draed i ddringo ato; a chan dy fod dithau am ddysgu y cwbl, dim ond i ti ymdrechu, yr wyt yn sicr o gyrhaedd dy amcan. Ti wyddost beth yw llafariaid a chydseiniaid, oni wyddost?

I. Wel gwn, wrth gwrs; dyma y llafariaid, a, e, i, o, u, w, y; a dyma'r cydseiniaid, b, c, ch, d, dd, f, ff, g, ng, h, 1, ll, m, n, p, ph, r, s, t, th. Ond atolwg, beth sydd a fyno y rhai hyn â Rheolau Barddoniaeth? Am ddysgu y Cynghaneddion wyf fi, fel y gallwyf gyfansoddi yn y Caeth Fesurau, a gweled pa faint o farddoniaeth sydd yn nghyfansoddiadau ereill yn y mesurau hyny, pan fyddwyf yn eu darllen.

A. Cymmer hi yn araf Ifor, os wyt am i mi dy gyfarwyddo, y mae yn rhaid i mi gael fy ffordd fy hun, i raddau beth bynag. Mae yn angenrheidiol i ti gofio beth sydd i'w feddwl wrth yr enwau cydseiniaid a llafariaid, gan y byddwn yn gwneyd defnydd mynych o'r enwau wrth fyned yn mlaen. O barth y Cynghaneddion, buddiol fydd i ti eu dysgu tuag at gyfansoddi, yn nghyd â deall cyfansoddiadau ereill yn y Mesurau Caethion; ond cofia, na fydd eu dysgu yn un help i ti i farnu teilyngdod