Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

barddonol unrhyw gyfansoddiad. Cyfeiliornad dybryd o eiddo yr "Hen Ysgol" yw meddwl fod cynghanedd yn elfen hanfodol mewn barddoniaeth. Mae llawer o gyfansoddiadau wedi eu plethu yn y modd cywreiniaf o ran cynghanedd, ac etto yn hollol amddifad o farddoniaeth; tra mae ereill heb ddim cynghanedd nac odl yn gyfoethog o farddoniaeth fyw. Y gwir yw, mai cangen o Rifyddiaeth yw cynghanedd; ac os oes genyt ti chwaeth at Rifyddiaeth, bydd yn hawdd i ti ddysgu y cynghaneddion.

I. Wel, dyna sylw newydd hollol i mi; ni chlywais i neb o'r blaen 'yn dweyd fod unrhyw berthynas rhwng cynghanedd a Rhifyddiaeth! Yr wyf yn hoff iawn o Rifyddiaeth, ac yn medru rhifyddu yn lled dda hefyd, ond yn fy myw nis gallaf ddysgu cynghaneddu yn gywir, yn ol y cyfarwyddiadau sydd yn y gwahanol Ramadegau.

A. Gan fod fy sylw yn newydd i ti, o barth y berthynas sy'n hanfodi rhwng Rhifyddiaeth a chynghanedd, gwell i mi cyn myned yn mhellach egluro fy ngosodiad. Ti wyddost pan fyddi yn gweithio Rhifyddiaeth, fod yn rhaid trefnu y rhifnodau yn y fath fodd, fel ag i gyd ateb eu gilydd yn rheolaidd, cyn y bydd y gwaith yn iawn. Er enghraifft, meddwl dy fod yn lluosogi 4 wrth 4, fel hyn:—

4x4 =16

Dyna 16 onide? Ond pe gosodid 61, yn lle 16, sef gosod y rhifnod 1 ar ol y 6 yn lle o'i flaen, byddai yn annghywir, er mai yr unrhyw rifnodau a ddefnyddid. Mae yn rhaid i'r rhifnodau fod yn eu lleoedd priodol cyn y bydd y gwaith yn iawn. Yr un fath yn hollol wrth gynghaneddu. Mae yn rhaid trefnu y gwahanol lythyrenau yn y fath fodd fel ag i gyd ateb eu gilydd yn rheolaidd cyn y bydd y gwaith yn gywir; oblegyd math o drefniad neillduol ar y llythyrenau mewn llinell yw cynghanedd. Er enghraifft, edrych ar y llinell hon:

Pur lesol yw pêr lysiau.

Dyna linell gywir o ran cynghanedd fel y mae yn bresenol; a dim ond tynu y llafariaid o honi, yn nghyd â'r l olaf yn y gair lesol, yr hwn sydd yn ffurfio gorphwysfa y llinell, fe geir fod y cydseiniaid yn y ddau ben iddi yr un fath, fel hyn:—

Prls—prls

Hefyd, y mae y llafariaid yn y ddau ben yn wahanol; yn y pen blaenaf, y mae u e o; ac yn y pen olaf, y mae eyiau. Dyna