Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth sydd i'w ddeall wrth y dywediad, "Cyfnewidiad llafariaid, a chyd—darawiad cydseiniaid." Ond meddwl dy fod yn defnyddio yr un llythyrenau i wneyd llinell, ond dy fod yn eu gosod mewn trefn wahanol, fel hyn ::

Pel surol yw pêr lysiau.

Ni fyddai na synwyr na chynghanedd ynddi yn y ffurf hon, er mai yr un llythyrenau yn hollol sydd ynddi ag oedd yn y ffurf flaenorol; ond eu bod wedi eu cam drefnu.

I. Yn wir, yr wyf yn dechreu amgyffred ychydig eisoes; ac yn gweled fod cryn debygolrwydd rhwng cynghanedd a Rhifyddiaeth. Ond i gael dod yn fwy uniongyrchol at y pwngc, beth pe bawn yn cael rhes o enwau y cynghaneddion, i mi gael eu cadw ar gof?

A. Dim ond dwy brif gynghanedd sydd, sef Y Gynghanedd Sain, a'r Gynghanedd Groes; ond fod ereill yn tarddu fel cangenau oddiar y rhai hyn.

I. Gwell i mi gael ychydig wersi yn y Gynghanedd Sain yn gyntaf ynte, a myned at y Gynghanedd Groes ar ol hyny, onide? 'Does bosibl os na ddysgaf ddwy, pa mor ddyrys bynag y maent.

A. Paid a bod mor frysiog ar y dechreu, oblegyd y mae cryn dipyn o waith genyt i feistroli y cynghaneddion. Yr wyf yn meddwl mai y ffordd fwyaf fanteisiol i ti, fydd i ni ranu y cynghaneddion yn bedair, sef y Gynghanedd Unodl, neu Y Lusg, Y Draws, Y Sain, a'r Groes; a chredwyf hefyd mai yn ol y drefn hon y bydd yn fwyaf manteisiol i ni sylwi arnynt.

Y GYNGHANEDD UNODL, NEU Y LUSG.

ARTHUR. Mae i hon bump o ffurfiau, sef 1, Llusg Lefn; 2, Llusg o Gysswllt; 3, Llusg Gyssylltgudd; 4, Llusg o Gysswllt Ddyblyg; 5, Llusg Wyrdro.

IFOR. Mae'r Gramedegau yn ddieithriad yn dechreu gyda'r Groes Rywiog; ai nid gwell fyddai i ninau ddechreu yr un fath? A. Mae'n wir fod y Gramadegwyr yn dilyn eu gilydd yn hyn, ond nid yw hyny yn un rheswm eu bod wedi dewis y cynllun goreu i ddysgu y cynghaneddion. Y maent yn dechreu gyda'r Llythyrenau tuag at ddysgu iaith, sef ar ffon isaf yr ysgol, ond wrth drin y cynghaneddion, y maent yn dechreu gyda'r oraf, a'r anhawddaf ei deall; yr un fath a phe gosodid plentyn i ddysgu Algebra neu Euclid cyn dysgu rhifyddeg gyffredin. Fy rheswm dros ddechreu gyda'r Lusg yw, am yr ystyrir hi y waelaf o'r cynghaneddion; ac am fy mod yn credu y bydd yn hawddach i tithau ei deall na'r un o'r lleill; ac ar ol deall hon, bydd yn fantais i ti fyned yn y blaen i feistroli y rhai ereill.