Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I. Y mae hynyna yn ddigon o reswm hefyd, yn ol fy marn i. Bellach, beth pe bawn yn cael gair o eglurhad beth sydd i'w ddeall wrth y Gynghanedd Lusg, yn nghyda chyfarwyddid pa fodd y mae ei llunio mewn llinell.

A. Merch y Gynghanedd Sain yw y Lusg, ac yn tebygu llawer iddi, fel cawn weled wrth fyned yn mlaen. A chan y byddwn yn gwneyd defnydd yn aml o'r geiriau sain, a seiniau, dichon mai y ffordd oreu fydd cael gair neu ddau arnynt cyn myned yn mhellach. Ti wyddost fod pob cymmal, neu sill mewn gair, yn cynnyrchu sain; hyny yw, gair unsill yn cynnyrchu un sain, gair dausill yn cynnyrchu dwy sain, &c. Bydd yn fanteisiol i ti gadw hyn mewn cof, gan mai sain a seiniau yw yr enwau a ddefnyddiwn ar wahanol gymmalau geiriau. Y ffordd i wneyd Cynghanedd Lusg, yw trefnu geiriau llinell yn y fath fodd, fel ag i gael rhyw sain tua ei chanol, i fod yn unsain â'r sain olaf ond un yn y llinell; neu mewn geiriau ereill, i odli â'r sain olaf ond un, neu y sill nesaf i'r brif—odl.

I. Yr wyf yn deall mai prif—odl y gelwir diwedd llinell; ond beth os bydd llinell yn diweddu yn unsill, a ellir cael Cynghanedd Lusg mewn llinell felly?

A. Na ellir; mae yn rhaid i linell ddiweddu yn lluossill, cyn y gellir cael Cynghanedd Lusg iddi, ac ni wna pob gair lluossill y tro i ddiweddu ychwaith. Nis gellir cael y Gynghanedd Lusg mewn llinell yn diweddu â gair lluossill, os bydd sill olaf y gair hwnw yn cynnwys sain hir; megys Aberdâr, Pontypridd, Llandâf, Caerdydd, &c.

I. Yr wyf bellach yn deall i raddau beth yw Cynghanedd Lusg, a pha fodd y mae ei llunio mewn llinell; hyny yw, yr wyf yn gwybod pa fath eiriau sydd yn ofynol i fod yn diweddu llinellau, tuag at gael y Lusg ynddynt. Bellach, mi a garwn gael ychydig gyfarwyddyd gyda golwg ar wahanol ffurfiau y Lusg.

A. O'r goreu, ni a gymmerwn y gwahanol ffurfiau bob yn un.

Y LUSG LEFN.

Diau dy fod yn cofio beth a ddywedais wrthyt o barth y rheol gyda golwg ar ffurfio y Lusg mewn llinell; yn awr ti a gei weled y peth yn cael ei weithio allan, ac yr wyf am i tithau geisio gwneyd llinellau dy hun fel y byddwn yn myned yn mlaen, ae nid cymmeryd enghreifftiau o eiddo dynion ereill. Yn awr, dyma linell yn cynnwys y Lusg Lefn :—

Minau af dros yr afon.

Yn y llinell hon, ti weli yn amlwg mai yr un sain sydd i'r af