Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hateb; o ganlyniad, y mae yn ymddangos i mi fod fy llinell yn iawn.

A. Yn wir, y mae yn dda iawn genyf dy weled yn dod allan i resymu mor gryf dros dy linell; etto, carwn i ti beidio bod yn rhy benderfynol nes ein bod wedi deall ein gilydd yn drwyadl. Mae'n wir fod grym yn dy ymresymiad o barthed rhaniad y gair gorphwys, yn nghyd â geiriad y rheol gyda golwg ar y Gynghanedd Lusg; etto, ar ol i mi egluro'r cwbl i ti, yr wyf yn gwybod y gweli dy hun fod dy linell yn annghywir.

Yn y ddegfed ganrif y gwnaed Rheol a Dosparth gyntaf ar y Cynghaneddion, a'r hwn a'u trefnodd oedd Geraint Fardd Glas, brawd Morgan Hen, Tywysog Morganwg. Tybir mae y Geraint hwn oedd Asser Menevenses, athraw Alfred Fawr.

Yn amser Dafydd ab Gwilym, drachefn, cynnaliwyd tair Eisteddfod, un yn Llys Ifor Hael yn Maesaleg; un arall yn y Ddol Goch yn Emlyn, dan nawdd Llywelyn ab Gwilym; a'r drydedd yn Maelor yn Mhowys, dan nawdd Iarll Mortimer. Yn y tair Eisteddfod hyn, darfu i Dafydd ab Gwilym, a thri brodyr Marchwiail yn Maelor, sef Ednyfed, Madawg, a Llywelyn, meibion Gruffydd ab Iorwerth, ab Einion Goch, yn nghyda Sion y Cent, Rhys Goch Eryri, &c., wneyd amryw ddiwygiadau mewn Cerdd Dafod a Chynghanedd. Darfu i Llawdden, drachefn, wella peth ar y cynghaneddion yn amser Eisteddfod Caerfyrddin, 1451; o ganlyniad, gan nad oedd trefn y cynghaneddion wedi ei berffeithio yn amser D. ab Gwilym, ni ddylid cymmeryd ei linellau ef yn rheol, y rhai ydynt wallus, yn ol y rheolau yn bresenol. Yn ol y Rheol yn bresenol, y mae yn rhaid i'r holl gydseiniaid fyddo yn nglyn â'u gilydd yn y sain nesaf i sain orphenol y llinell, gael yr un nifer i'w hateb, ac hefyd o'r un rhyw, yn y sain a lusgir; a'r cwbl i fod yn yr un drefn yn y ddwy sain.

I. O wel, os oes cyfnewidiad wedi bod ar y rheol, rhaid ei dilyn, wrth gwrs, yn ei sefyllfa bresenol. Bellach, yr wyf yn credu fy mod wedi cael gafael arni, ac yr wyf wedi gwneyd llinell newydd, yn ol y rheol hefyd dybygwyf, dyma hi :

Llwyd yw gwedd gwraig y meddwyn.

Dyna y sain gwedd, yn ffurfio y gair llusg, ac yn unsain â'r sain medd yn y gair meddwyn.

A. Mae yn ddrwg genyf dy hyspysu dy fod wedi methu y tro hwn etto; am fod angen cael w ar ol y gair gwedd, i ateb yr w yn y gair meddwyn. Y mae mwy o dywyllwch yn nglyn â'r llythyren w yn y Gynghanedd Lusg nag un llythyren arall, o ganlyniad y mae yn galw am sylw neillduol, tuag at egluro y rheol ar y pen