Tudalen:Yr Ysgol Farddol.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn. Dywedir yn y Gramadegau, fod yr w yn colli ei grym ar ol pob llythyren dawdd; a chan fod y goddefiad hwn yn perthyn i'r Gynghanedd Lusg yn neillduol, barnwyf mai wrth drin y Gynghanedd hon y mae oreu i ni sylwi ar y peth.

I. Wel beth yw y rheol ar y pen hwn, a oes rhaid cael w yn y sain a lusgir bob amser, i ateb yr w fydd yn sain olaf y llinell? A. Nac oes. Edrych ar dy linell di yn ei ffurf ddiwygiedig:—

Mae'n rhaid i'r corph gael gorphwys,

Mae yr w ar ol y ph yn y gair gorphwys, heb un yn ei hateb ar ol y sain corph, ac nid oes angen un ychwaith tuag at i'r llinell fod yn gywir.

I. Wel ïe, ond nid wyf fi yr un gronyn gallach etto. Y peth wyf fi am wybod yw, pa bryd y mae ei hangen yn y gair llusg, a pha bryd nid yw yn angenrheidiol, i ateb yr un fydd yn dechreu sain orphenol y llinell.

A. Fel hyn; dyma reol syml i ti. Os bydd yr w olaf mewn llinell yn cymmeryd ei sain fèr, dylai w fod yn ei hateb yn y sain a lusgir, megys:—

Plant a gweddw y meddwyn.
Mor welw yw y delwau.

Yn y llinell flaenaf o'r ddwy hyn, y mae y sain eddw yn y gair gweddw, yn ateb y sain eddw yn y gair meddwyn; yr hyn sydd angenrheidiol, gan fod yr w yn cymmeryd ei sain fèr yn y gair meddwyn. Yr un fath yn yr ail linell, y mae y sain elw yn welw, yn ateb elw yn delwau, am yr un rheswm. Ond pan fyddo yr w yn cymmeryd ei sain hir yn y sill olaf o linell, megys yn y geiriau trechŵyd, lladdŵyd, torŵyd, agorŵyd, &c., nid oes angen cael w i'w hateb yn y sain a lusgir.

I. Wel beth pe bawn i yn cynnyg unwaith etto, i gael gweled a wnaf linell gywir y trydydd tro? fe ddywedir fod tri chynnyg i Gymro, a dyma finau yn cynnyg y drydedd waith:

Holl byrth y môr agorant.

Gallwn feddwl fod hon yn iawn, oblegyd dyna y sain unigol môr, yn unsain â'r sain gor yn y gair agorant, sef y sain nesaf i'r brif—odl.

A. Dyna ti wedi llwyddo o'r diwedd i wneyd llinell gywir yn y Gynghanedd Lusg; a buasai yr un mor gywir fel hyn:

Holl byrth y môr agorwyd,

Er fod w yn dechreu y sain olaf yn y llinell, ac heb un yn ei hateb ar ol y sain or yn y gair môr; a'r achos ei bod yn gywir yw, fod yr w yn cymmeryd y sain hir yn agorwyd.