RHAGYMADRODD.
AMCAN cyhoeddi YR YSGOL FARDDOL yw cyfarwyddo efrydwyr ieuaingc mewn Cynghanedd a Mydr yn unol â Rheolau Barddoniaeth Gymreig.
Os barna rhai nad yw yr iaith a arferir yn ddigon coeth a dwfn, cofied y cyfryw mai ag efrydwyr ieuaingc y mae a fynwyf yn fwyaf neillduol.
Fe wel y cyfarwydd fod yr holl enghreifftiau a roddir yma i egluro y Cynghaneddion yn newyddion. Bernais hyny yn well na dilyn arferiad Gramadegwyr yn gyffredin, o ddefnyddio yr unrhyw enghreifftiau byth a hefyd. Costiodd eu gwnethuriad fwy o lafur, wrth gwrs, nâ phe buaswn yn eu cymmeryd allan o lyfrau; ond wrth eu gwneyd, profwyd gwiredd y ddiareb
"Yn mhob llafur y mae elw."
Mae lluaws o'r enghreifftiau a roddir i egluro y Mesurau yn wreiddiol hefyd, y rhai a wnaed o herwydd i mi fethu cael digon i'm boddio mewn llyfrau. Cymmerwyd y lleill o weithiau Beirdd hen a diweddar. Da fuasai genyf gael mwy o eiddo rhai diweddar, ond methais, er chwilio yn fanwl, am nad oes ond ychydig o Feirdd yr oes hon yn cyfansoddi yn unol â Dosparth Morganwg. Wrth gymmeryd arnaf yr hyfdra o fod yn Athraw Cynghaneddol, &c., i Feirdd ieuaingc, nid wyf yn honi fod y Caeth Fesurau, fel eu gelwir, yn meddu mwy o fanteision i'r awen nâ'r Mesurau Rhyddion; etto, barnaf nad yw eu caethder gymmaint ag y myn rhai i ni gredu ei fod, a chredaf fod llawer yn condemnio y Cynghaneddion am nad ydynt yn eu deall.
Rhodder i'r awen ryddid,
yw llef barhaus lluaws o'n Beirdd; a dywedaf finau Amen: etto gwareder yr awen Gymreig rhag Penryddid y Mydr penrydd diodl, oblegyd nid oes ynddo ddim ag sydd yn gydweddol â'n hiaith o gwbl. Yr unig gaethder yn Mesurau yr Awdl yw y Gynghanedd, ac nid yw hithau yn rhyw gaeth iawn ar ol ei dysgu. Nid oes caethder o gwbl yn y Mesurau ynddynt eu hunain. Mae hyd y nod Dafydd ab Edmwnd wedi caniatau i'r awen bedair gwisg ar hugain; ond nid oes derfyn ar rifedi ei gwisgoedd yn nghoffrau yr Hen Ddosparth. Y gwir yw, nis gall y dychymyg mwyaf crebwyllig lunio unrhyw fath o bennill cynghaneddol ac odlog heb fod yn hollol reolaidd i'w osod