Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/102

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

80
COFIANT
Tor fy nghalon galed, gyndyn,
Tor hi 'nawr yn ddrylliau man,
Tyn bob rhwystr sydd yn atal
Iti, Arglwydd, ddod ymla'n;
Eistedd yma,
A'th deyrnwialen yn dy law.
Rho oleuni, rho ddoethineb,
Rho dangnefedd fo'n parhau,
Rho lawenydd heb ddim diwedd,
Rho faddeuant am bob bai;
Rho dy yspryd,
Gwnaed ei babell tan fy mron."
Byddai ei theimladau yn nghylch ei chyflwr, ar
amserau, yn ddwys iawn. Yr oedd yn dyoddef yn
drwm dan gystudd caled tua diwedd ei hoes, ond,
ychydig cyn ei marwolaeth, mewn atebiad i gry-
bwylliad un o'i chyfeillion "ei bod wedi dyoddef
llawer o gystudd, dywedai wrthym, mai y boen
fwyaf a ddyoddefodd, oedd poen meddwl mewn
ymdrech caled â'i gelynion ysbrydol, a hyny tan
wendid mawr yn ei chorff, ac mai yr ymdrech olaf,
yr hon a ddylynwyd gan doriad y wawr, oedd yr
un galetaf o'r cwbl.
Yn mis Medi, 1856, y cawn ffrwyth ei myfyr-
dodau a'i dymuniadau mewn cysylltiad â'r Gymanfa
oedd ar gael ei chynal yn Mangor, fel y canlyn-
"BETH DEBYGWCH CHWI, GAN NA DDAETH EFE FR
WYL?" Ioan, xi. 56.
Nid oedd amcan uwch gan yr Iuddewon wrth roddi
gofyniad yma, na chael golwg ar yr un enwog oedd wedi
gwneyd cynifer o wyrthiau yn eu plith. Ond gall gofyniad
o'r fath godi oddiar ddyben uwob. Gall y bydd llawer
Cristion pryderus heb weled arwyddion digon amlwg o bre-
senoldeb yr Iesu yn yr ŵyl yr ydym ni yn ddisgwyl, yn barod
i ofyn mewn ambeuaeth, "Beth debygwch ohwi, am na ddaeth
efe i'r Sasiwn?" Buom yn gweddio llawer am ei bresenoldeb,
esgynodd llawer o ocheneidiau dwys am iddo rwygo y nefoedd,
a diagyn fel y toddai y mynyddoedd o'i flaen; ac am iddo fod
fel cawodydd o wlith i Israel, &o. Ond ni "ddaeth yr Iesn
i'r wyl." Ond tybed a ddaeth efe i'r ŵyl hono yn Jerusalem?