Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/104

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

82
COFIANT
ymddygiadau, a thrwy gymhorth yr Arglwydd i gadw fy
nheimladau a'm tymherau annghysurus dan reolaeth.
2. I feddwl yn well am bawb nag am danaf fy hun, a rhoddi
yr eglurhadaeth, neu yr esboniad goreu ar ymddygiadau ereill.
3. Mewn trefn i gael ereill i wneuthur daioni, i gymysgn
mwy gyda hwynt, ac i neillduo ychwaneg o fy amser i ymweled
A'r cleifion a'r oedranus yn mhlith aelodau ein Cymdeithas
Eglwysig.
4. I ddarllen y Bibl yn fwy rheolaidd.
Dyma ddechreu da beth bynag, tybed a glywir
son am hyn eto, neu ynte a lyncir y penderfyniadau
hyn i ebargofiant, fel y bu tynged llawer o'u cy-
ffelyb; na, dylynwn hi hyd y dydd olaf o'r flwyddyn
1857, dacw'r hen benderfyniadau yn cael en galw
i'r bwrdd:-
"Rhagfyr 3lain, 1857,-
PA BETH A DDAETH O'M PENDERFYNIADAU?
Y laf wedi ei gadw yn anmherffaith, heb wylio a gweddio
digon. Y mae natur fy afiechyd yn fy ngosod yn dra agored
ar y mater hwn.
Yr 2il. Yr wyf yn teimlo yn fwy cysarus ar y pen yma.
Yr wyf yn meddwl fy mod wedi gwneyd rhyw gymaint o
gynydd.
Y Sydd. Wedi cael cymaint o gystudd, ac hyd yn nod
angeu yn y teulu, yr hyn sydd wedi rhwystro i mi weithio
allan y penderfyniad hwn; ond mor belled ag y bam yn alluog,
y mae wedi ei wneyd.
Y 4ydd. Wedi cychwyn, ac wedi myned mor belled a'r
6ed o Numeri-Job hyd Esaiah-Matthew byd ddiwedd Luc.
Yn penderfynu myned yn mlaen. Nis gallaf lai na gweled
tebygolrwydd rhwng yr ymdrech meddwl hwn am gael bu-
ddugoliaeth ar lygredigaeth calon, i ymdrech byddinoedd i
gymeryd trefydd mewn rhyfel. Fel y bydd y fyddin ymosodol
yn nesau at y caerau, y mae yr ymladd yn myned yn fwy
poeth, a'r gelynion o bob tu yn myned yn fwy o ddifrif, ac yu
fwy penderfynol; felly yma, dal y cleddyf gan ddyweyd,
"rwy'n penderfynu myn'd yn mlaen."
Rhoddwn yma gyfieithiad o'i heiddo ar ddau
benill gan Mr. Edward Jones, Maes y plwm, y rhai,