Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/107

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
85
pawb a'i hadwaenai, ei bod yn berchen crefydd
gywir. Dywedai wrthym yn ddifloesg, ar ol
adferu o bangfa galed, pan oedd hi ei hun, yn
gystal a ninau, yn credu fod y babell yn dattod,
nad oedd yn teimlo dim dychryn, ond fod tystiol-
aethau y Beibl yn gweinyddu mwy o ddyddanwch
i'w meddwl nag a allai iaith byth ddesgrifio. A
phan yr aeth drwy y glyn, er na fedrai adrodd ei
theimladau, eto, dangosai mewn gwên siriol ei bod
yn teimlo pob peth yn dda. Fel hyn, ni a welwn
mai rhyw fwgan yw angeu y Cristion, tebyg i
fwganod ereill; pa nesaf yr eir ato, lleiaf yr ofnir ef.
Maddeued y darllenydd i mi am droi ychydig o'r
ffordd i olrhain diwedd dedwydd un arall o blant
y cystudd mawr. "Gwerthfawr yn ngolwg yr
Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef."
Ond i ddychwelyd at wrthddrych ein cofiant.
Yn hollol groes i'n hofnau, bendithiodd yr Argl-
wydd y feddyginiaeth a weinyddwyd iddi, ar ryw
olwg mewn modd gwyrthiol i adferu ei hiechyd am
dymhor yn ychwaneg.
Yn ei dyddlyfr am Gorphenaf laf, ysgrifena
fel hyn:-
"Cefais fyned i'r Society am y tro cyntaf er's haner
blwyddyn."
Ac ar y 23ain o Fedi, eto,---
"Diwrnod teg a byfryd; aethym mor belled a'r gladdfa
newydd, i weled bedd fy anwyl chwaer. Y mae ganddi le
hyfryd i orphwys."
Y mae y llinellau canlynol o'i heiddo yn ddatgan-
iad bywiog o'i theimladau yn y fath amgylchiad:-
Upon thy tomb I'll scatter
The sweetest choiceat flowers,
These with my tears I'll water
In soft and gentle showers.